A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dadansoddwr Busnes Cyllid D365 / Swyddle
Swydd:
Dadansoddwr Busnes Cyllid D365
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Hyd at £65,000
Cyfeirnod:
REC01356
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
26-08-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am 18-mis

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bod yn gyfrifol am ddadansoddi prosesau busnes, casglu, a dogfennu gofynion, mapio prosesau ‘Presennol' a 'Dyfodol' a darparu argymhellion, datrysiadau i'w rhoi ar waith yn system Cyllid a Gweithrediadau D365 gyda'r nodwedd cyfrifyddu prosiectau. Hefyd, gweithio’n agos gyda’r Perchennog Prosesau Byd-eang a’r Partner Gweithredu i ddylunio a ffurfweddu datrysiadau sy’n diwallu anghenion y busnes, a chefnogi’r cylchoedd profi derbynioldeb i'r cwsmer gyda’r Rheolwr Profi Cyllid a Gweithrediadau D365.

  • Cynorthwyo tîm y prosiect drwy gynghori ar ddatrysiadau priodol, ynghyd ag opsiynau ac argymhellion amgen, i gyd o fewn system Cyllid a Gweithrediadau Dynamics365. Yn ogystal â hyn, cyfrifyddu prosiectau gan ganolbwyntio’n ddwys ar brosesau busnes craidd, fel Caffael i Dalu, Archeb i Arian, Cofnodi i Adrodd, Asedau Sefydlog, Rheoli Stoc, Arian a Banc, Credyd a Chasglu, Rhyng-gwmni a Chyfnerthu drwy ddylunio’r datrysiadau arfaethedig gan ddefnyddio Visio.
  •  Cynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid a thîm y prosiect i ddadansoddi’r broses “Presennol” ac i ddylunio datrysiadau, fel y broses “Dyfodol”, a chanfod unrhyw fylchau sy’n gofyn am welliannau yn y broses. Hefyd, hyrwyddo’r arferion gorau a rheolaethau cryf o ran gwahanu dyletswyddau ar gyfer prosesau sy’n seiliedig ar systemau, a fydd yn sicrhau eu bod yn addas i’r diben.

 

  • Trawsnewid y gofynion busnes yn fodel technegol a syml drwy werthuso’r angen am ddatrysiad arfaethedig a fydd yn defnyddio prosesau a nodweddion awtomeiddio systemau i leihau ymyriadau â llaw, gan sicrhau bod y prosesau busnes yn gweithredu’n effeithiol ac yn effeithlon.

 

  • Cefnogi’r gwaith o ffurfweddu’r prosesau gyda thîm y prosiect drwy ddogfennu’r mapiau proses yn barod ar gyfer y cylchoedd profi, a fydd wedyn yn dod yn broses 'busnes fel arfer' ffurfiol ar gyfer yr adeg pan fydd y gweithrediad yn cael ei drosglwyddo i’r busnes ar gyfer y cam mynd yn fyw, a fydd yn sicrhau bod prosesau’r system yn gweithredu’n effeithiol. 

 

  • Mapio llifoedd gwaith ac awgrymu newidiadau i brosesau er mwyn symleiddio gweithrediadau a chynyddu cynhyrchiant drwy gydweithio â pherchnogion prosesau ac arbenigwyr pwnc i ddylunio a gweithredu prosesau busnes effeithiol ac effeithlon a fydd yn sicrhau bod modd rhoi’r ffurfweddiad ar waith yn briodol

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd mewn Cyllid a Chyfrifyddu, neu brofiad cyfatebol.
  • Cymhwyster cyfrifyddu proffesiynol, ee ACCA, CIMA, ICAEW.
  • Profiad o ddogfennu mapiau proses gan ddefnyddio Visio.
  • Dealltwriaeth ddofn o weithredu swyddogaethol a phrofiad o ddefnyddio system Cyllid a Gweithrediadau D365 (GL, AP, AR, Rheoli Banciau, Asedau Sefydlog, Cyllidebu, Cyfrifyddu Prosiectau, Credyd a Chasglu, Caffael, Rhestr Eiddo, Rhyng-gwmni a modiwlau Cyfnerthu ac ati).

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.