A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynorthwyydd Recriwtio ac Ymgysylltu Lefel Mynediad (Siaradwr Cymraeg) / Swyddle
Swydd:
Cynorthwyydd Recriwtio ac Ymgysylltu Lefel Mynediad (Siaradwr Cymraeg)
Lleoliad:
Hybrid
Cyflog:
£26,000 y flwyddyn
Cyfeirnod:
20260226TRP2
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
TRP Research
Dyddiad Cau:
31-03-2026

Cynorthwyydd Ymchwil Recriwtio ac Ymgysylltu (Siaradwr Cymraeg)

Cyflog: £26,000 y flwyddyn

Lleoliad: Hybrid, gyda'r gofyniad i fynd i gyfarfodydd tîm a chael hyfforddiant personol achlysurol yn ein swyddfa yn Taunton

Math o swydd: Parhaol, llawn-amser (37.5 awr yr wythnos)

Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl

Angerddol am ymchwil a'r cyfryngau? Siaradwr Cymraeg rhugl?
Ydych? Os felly, gallai ein rôl Recriwtio ac Ymgysylltu i Siaradwr Cymraeg fod yn berffaith i chi.

Yma yn TRP Research rydyn ni’n creu ac yn rhedeg prosiectau ymchwil sydd wedi'u cynllunio i fesur y ffordd y mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau, eu hagweddau tuag atynt a’u hymddygiad. Mae defnyddio'r cyfryngau yn cynnwys teledu, ffrydio a radio, yn ogystal â'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r data a gesglir yn cael eu defnyddio gennym i helpu ein cleientiaid, gan gynnwys darlledwyr a chrewyr sioeau teledu, i wneud penderfyniadau strategol a thactegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth am y cyfryngau maen nhw'n eu cyflwyno i wylwyr.

Rydyn ni’n rhedeg sawl panel defnyddwyr gan gynnwys trpsurveys.com, surveypraeg.com, panelcyfryngau.cymru, a mediaopinionsireland.ie.

Fel Cynorthwyydd Ymchwil Recriwtio ac Ymgysylltu, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm bach o gydweithwyr i recriwtio paneli sy’n cynrychioli’r ddemograffeg, a’u cadw.


 

Prif Gyfrifoldebau

  • Gweithio gyda'r tîm i weithredu strategaethau recriwtio – e.e. gweithio gyda dylanwadwyr ar-lein, hysbysebu, a meithrin perthnasoedd ag elusennau a grwpiau
  • Dylunio cyfryngau creadigol i'w defnyddio ar gyfer recriwtio, ymgysylltu a chyfathrebu ag aelodau ein paneli
  • Dadansoddi data o ymatebion i greu syniadau a rhedeg ymgyrchoedd i ymgysylltu ag aelodau’r paneli a recriwtio aelodau newydd
  • Paratoi deunyddiau cyfathrebu ar gyfer aelodau’r paneli, gan gynnwys ymateb i ymholiadau i fewnflwch arolygon a negeseuon sydyn ac uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol, yn Gymraeg ac yn Saesneg

Bydd ein Cynllun Hyfforddi a Datblygu mewnol yn eich cefnogi ar eich taith gyda TRP. Mae aelodau presennol y tîm wedi datblygu o swyddi tebyg i swyddi uwch o fewn TRP.


 

Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

  • Yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
  • Yn gyfathrebwr effeithiol sy'n gallu teilwra'r cyfathrebu i gynulleidfaoedd a demograffeg wahanol
  • Â’r gallu i weld “y tu hwnt i'r rhifau” i adnabod tueddiadau a phatrymau, ac ychwanegu ystyr a mewnwelediad at y data
  • Â gwybodaeth weithiol dda am becyn Microsoft Office, yn enwedig Word ac Excel
  • Profiad o weithio o fewn fframweithiau cydymffurfio – e.e. GDPR, Cynlluniau Iaith Gymraeg

Dymunol

  • Yn gyfarwydd â Photoshop, Canva neu debyg
  • Yn gyfarwydd ag ymgysylltu trwy adnoddau cyfryngau (e.e. Meta, Spotify)

 

Nodweddion Personol

  • Yn gymdeithasol, yn hawdd mynd ato/ati ac yn frwdfrydig
  • Yn gyfathrebwr hyderus, clir ac yn ennyn diddordeb
  • Yn greadigol ac yn wych am feddwl am syniadau y gallant eu trosi yn gynnwys effeithiol a difyr
  • Yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol yn ogystal â gweithio fel aelod o dîm
  • Yn gallu addasu ac yn gallu rheoli eu hamser yn dda, hyd yn oed pan fydd blaenoriaethau yn newid
  • Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau clir a gweithio ar eu menter eu hun pan fo angen
  • Yn awyddus i ddatblygu

 

Pam TRP Research?

Bydd ein Cynllun Datblygu mewnol yn helpu i lunio datblygiad eich gyrfa o fewn TRP Research ac yn rhoi llwybr wedi'i deilwra i chi tuag at ddilyniant.

  • 22.5 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc y DU, yn cynyddu i uchafswm o 27.5 diwrnod gyda phob blwyddyn o wasanaeth
  • Hyblygrwydd gyda gwyliau, gan gynnwys cario gwyliau rhwng blynyddoedd ariannol a phrynu hyd at 10 diwrnod ychwanegol
  • 6 wythnos o wyliau â thâl i rieni ar 70% o’u cyflog wythnosol cyfartalog (yn ychwanegol at hawliau statudol)
  • Cynllun Gofal Iechyd Preifat (ar ôl cwblhau cyfnod prawf o 3 mis), yn cynnwys yswiriant teithio, profion llygaid am ddim a lwfans arian-yn-ôl ar gyfer sbectol, lensys a thriniaeth ddeintyddol
  • Cynlluniau Prynu Beiciau a Thechnoleg trwy aberthu cyflog mewn ffordd effeithlon o ran treth dros gyfnod o ddeuddeg mis
  • Rhoi trwy’r Gyflogres ar gyfer rhoddion elusennol

Rydyn ni’n cydnabod efallai y byddai'n well gennych rannu'ch wythnos waith rhwng ein swyddfeydd a'ch cartref, ac yn annog pawb i drafod yr hyn fyddai orau ganddyn nhw gyda'u rheolwr.


 

Sut i Wneud Cais

I wneud cais, lawrlwythwch ffurflen gais oddi ar ein gwefan ac anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau yn Saesneg trwy e-bost i careers@trpresearch.com.

Dyddiad cau: Mawrth 2026

Ochr yn ochr â'ch ffurflen gais, anfonwch lythyr yn Gymraeg hefyd yn esbonio pam mae'r rôl hon o ddiddordeb i chi. Dylai hyn gynnwys y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn Saesneg yn adran gwybodaeth ategol eich ffurflen gais.

Mae TRP Research Ltd yn gyflogwr cyfle cyfartal.