A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Gweinyddwr Cefnogi Busnes – Diogelwch Tân / Swyddle
Swydd:
Gweinyddwr Cefnogi Busnes – Diogelwch Tân
Lleoliad:
Hybrid, Wrecsam
Cyflog:
£27,694 - £28,598
Cyfeirnod:
GTAGC17226
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru | NWFRS
Dyddiad Cau:
16-03-2026

Gweinyddwr Cefnogi Busnes – Diogelwch Tân
Swyddfa Diogelwch Tân – Swyddfa Ardal Wrecsam / Gweithio Hyblyg
Parhaol, 37 awr yr wythnos
Gradd 04: £27,694 i £28,598 y flwyddyn (pro rata)

Gan ddarparu cymorth gweinyddol i’r timau Diogelwch Tân Cymunedol a Busnes yn ardal Wrecsam, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau llafar ac ysgrifenedig i’r adran. Mae hyn yn cynnwys derbyn atgyfeiriadau cyfrinachol gan aelodau o’r cyhoedd, asiantaethau partner neu sefydliadau allanol, a mewnbynnu’r wybodaeth yn gywir i’r system rheoli cofnodion.

Byddwch yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd mewnol ac allanol, cymryd nodiadau, a pharatoi agendâu a nodiadau cyfarfodydd. Bydd dyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn cynnwys teipio llythyrau ac adroddiadau, cynhyrchu ystadegau o’r systemau rheoli cofnodion, ffeilio, a chefnogi’r timau yn ôl yr angen.

Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da, yn brofiadol o drefnu a chefnogi cyfarfodydd ac yn barod i helpu eraill. Gyda sgiliau trefnu da i reoli eich llwyth gwaith a chwrdd â dyddiadau cau, bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn addasadwy i newid, gan ddelio â cheisiadau wrth iddynt godi a gweithio’n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun.

Fel sefydliad dwyieithog, mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (Lefel 4) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae’r tîm wedi’i leoli yn Wrecsam ond bydd y rôl yn darparu cefnogaeth reolaidd i’n tîm Diogelwch Tân arall hefyd, ac felly efallai y bydd angen rhywfaint o deithio i swyddfeydd Diogelwch Tân eraill o fewn ardal y Gwasanaeth.

Sylwch fod y swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad DBS safonol a chyfeiriadau boddhaol. Am ragor o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.