Swydd:
Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Cyflog:
£29,691 - £34,272
Cleient:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dyletswyddau Allweddol
- Cynllunio a gweithredu rhaglen cynnwys cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell a chyfrannu at hyrwyddo casgliadau a gwaith y Llyfrgell trwy greu a rhannu cynnwys deniadol.
- Cynllunio a gweithredu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol mewn cydweithrediad â’r Tîm Cyfathrebu a Marchnata.
- Gweithredu cynllun cynnwys i hyrwyddo Arddangosfeydd y Llyfrgell ar draws cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
- Arwain ar ddatblygu a chyhoeddi fideos i hyrwyddo’r Llyfrgell, gan gynnwys cynnwys ar YouTube.
- Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a chyflwyno adroddiadau.
- Cynghori ar raglen hysbysebu ddigidol y Llyfrgell.
- Cydlynu prosesau sy’n galluogi staff i amlygu straeon sy’n cyfrannu at hyrwyddo’r sefydliad.
- Ysgrifennu copi cywir a deniadol ar gyfer deunyddiau hyrwyddo.
- Cydlynu, ysgrifennu ac anfon cylchlythyron ebost i gynulleidfaoedd targed.
- Gweinyddiaeth Polisi Cyfryngau Cymdeithasol y Llyfrgell (creu cyfrifon, cadw cofnodion, hysbysu staff o newidiadau).
- Rhannu cyngor ac arfer gorau i staff eraill sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
- Sicrhau cysondeb wrth frandio Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Adnabod anghenion dysgu a datblygu a mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen.
- Cynnal dealltwriaeth o ddeddfwriaeth hygyrchedd y We, GDPR a hawlfraint.
- Helpu i staffio digwyddiadau gyda’r hwyr ac ar benwythnosau pan fo’r galw.
- Cyfrannu at waith timau eraill y Gyfarwyddiaeth yn ôl y galw.
Darperir y Swydd Ddisgrifiad hon i roi amlinelliad bras o'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r rôl. Efallai y bydd gofyn cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u nodi yma ond sy'n gymesur â graddfa’r swydd. Gellir diwygio’r Swydd Ddisgrifiad o bryd i’w gilydd o fewn cwmpas a lefel y cyfrifoldeb sy’n berthnasol i’r swydd.
Cyfrifoldeb
- Cyfrifoldeb dros raglen cynnwys cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell.
- Cyfrifoldeb dros bresenoldeb y Llyfrgell ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau cynnwys digidol.
- Cyfrifoldeb dros fonitro ac adrodd ar berfformiad cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
- Cyfrifoldeb dros rannu cyngor ac arfer gorau i staff eraill.
- Cyfrifoldeb dros ddatblygu cynnwys fideo.
- Cyfrifoldeb dros gynhyrchu a dosbarthu prif gylchlythyr y Llyfrgell.
- Cyfrifoldeb dros ddelwedd ac enw da’r Llyfrgell mewn achlysuron cyhoeddus.
- Cyfrifoldeb dros safon a chywirdeb gwybodaeth a gyflwynir.
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Am becyn gwybodaeth a manylion am sut i wneud cais cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol y Llyfrgell ar 01970 632530/1; neu Ebost: swyddi@llgc.org.uk