Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyfle i fod yn chi.
Cyfle i gael eich grymuso.
Cyfle i fod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru.
Unigolyn Graddedig Masnachol
Lleoliad: Llys Cadwyn, Pontypridd
Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis
Gall y swydd hon gynnig cyfleoedd ar gyfer gweithio’n hybrid ac yn hyblyg.
Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion
P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, bydd ein cynllun i raddedigion yn eich helpu i sbarduno eich gyrfa a gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru.
Beth fydd fy nghyfrifoldebau?
Bydd yr Unigolyn Graddedig Masnachol yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni Prosiectau TrC yn y Gyfarwyddiaeth Fasnachol. Byddant yn cylchdroi ar draws meysydd busnes perthnasol, er mwyn datblygu dealltwriaeth ehangach o weithrediadau eu cyfarwyddiaeth.
A oes unrhyw ofynion hanfodol?
Dylech gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol, yn enwedig y rhai a restrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
Sylwch, i fod yn gymwys ar gyfer ein Cynllun i Raddedigion, mae'n rhaid bod llai na 2 flynedd wedi bod ers i chi raddio pan fyddwch yn gwneud cais, a rhaid ichi fod wedi graddio cyn i’r cynllun ddechrau. Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun i Raddedigion ddechrau mis Medi 2026.
Sylwch: mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU os cewch eich penodi i’r swydd. Dydyn ni ddim yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.
Sgiliau Cymraeg
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gallu sgwrsio neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y Camau Nesaf
Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i gael gwybod mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Talent Gynnar i gael sgwrs.
Diwrnod Asesu
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n eich gwahodd chi i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.
Cyfle Cyfartal
Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a phobl o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol, sef bod â gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.
Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni hyd eithaf ein gallu. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, cofiwch roi gwybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.
Gwybodaeth Arall
Yn TrC, rydyn ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial, a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd dysgu, mae arnon ni eisiau asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth deallusrwydd artiffisial. Os byddwn ni’n canfod cynnwys a baratowyd â deallusrwydd artiffisial, ni fyddwn yn gallu ystyried y cais, yn anffodus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y dyddiad cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau wedi dod i law.