A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch-gynghorydd Polisi (Cymru) / Swyddle
Swydd:
Uwch-gynghorydd Polisi (Cymru)
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£42,800
Cyfeirnod:
FSBUGPC26826
Sgiliau Cymraeg:
Dymunol
Math o Swydd:
Dros Dro ( Cytundeb 6 Mis Dros Dro )
Cleient:
Federation of Small Businesses (FSB)
Dyddiad Cau:
12-09-2026

Uwch-gynghorydd Polisi (Cymru) – Cytundeb 6 Mis Dros Dro
Lleoliad:        Caerdydd/Hyblyg
Cyflog:        £42,800 ynghyd â phecyn buddion cystadleuol
 

 

Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yw prif lais 5.5 miliwn o fusnesau bach a’r hunangyflogedig ar draws y Deyrnas Unedig. Er 1974, rydym wedi cefnogi pobl i gychwyn, rhedeg a thyfu eu busnes eu hunan. Gyda buddion sy’n arwain y farchnad, cymorth lleol, arbenigedd ariannol, digwyddiadau rhwydweithio a mwy, rydym yn cyflenwi ein haelodau â’r bopeth maent eu hangen i lwyddo mewn busnes. Ni yw prif ymgyrchydd busnes y Deyrnas Unedig, yn canolbwyntio ar sicrhau newid mewn materion sydd o fwyaf o bwys i’r economi BBaCh. Gyda thimau ar draws y Deyrnas Unedig, rydym yn gweithio gyda llywodraethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud i newid gwirioneddol ddigwydd.

Mae’r FSB wedi ymrwymo i helpu busnesau bach i oroesi drwy’r amseroedd anodd hyn, ac rydym yn rhoi digon o werth ar ein staff i ddarparu cyfraddau cyflog hynod gystadleuol, buddion a chymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae gweithio yn FSB Cymru yn rhoi cyfle rhagorol i'ch helpu i ddatblygu ar draws nifer o feysydd polisi sy’n cefnogi aelodau’r FSB yng Nghymru, tra yn llunio polisi ar gyfer ddatblygiad economaidd ledled Cymru yn ogystal. Byddwch yn cael cyfle i ddylanwadu’n uniongyrchol ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau gyda strategaeth polisi yr ydych wedi cyfrannu’n uniongyrchol ati. Trwy waith ymchwil seiliedig ar dystiolaeth a mewn modd amhleidiol byddwch yn darparu’r dystiolaeth polisi i ddylanwadu ar yr holl bleidiau yn y Senedd, San Steffan ac ar draws Cymru.

Byddem yn eich darparu gyda’r holl sgiliau a chymorth y byddech eu hangen i helpu ein haelodau, a’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau trwy waith tîm a meithrin cydberthynas. Credwn fod amrywiaeth yn allwedd i lwyddiant, ac rydym yn annog pobl o bob math a chefndir i ddod i ymuno â ni. Mae ein diwylliant cynhwysol yn caniatáu i’n holl weithwyr ddod â’u hunain cyfan i’r gwaith.

Mae FSB yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol ym maes polisi i helpu i yrru gweithgareddau polisi FSB Cymru, datblygu polisi ar gyfer tymor newydd y Senedd, herio a llywio dull gweithredu Llywodraeth Cymru newydd, a sicrhau bod buddiannau aelodau FSB yn cael eu cynrychioli gerbron pob lefel o lywodraeth a phrosesau craffu.

Beth fyddwch yn ei wneud?

Mae hon yn swydd ddiddorol ac amrywiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn

•    gorfod briffio a gweithredu fel cynghorydd ar faterion polisi allweddol i Gadeirydd Cymru a’r aelodau. 
•    cefnogi tîm ehangach Cymru yn lobïo ac yn argymell polisi’r FSB i randdeiliaid allweddol yn cynnwys Gweinidogion, gwleidyddion, gweision sifil a’r gymuned polisi ehangach
•    rhywun gyda’r gallu i gynhyrchu briffiau ac erthyglau i’w cyhoeddi’n fewnol ac yn allanol. Ar adegau fe all y swydd hon fynnu hefyd fod deiliad y swydd yn darparu cyfweliadau i’r cyfryngau darlledu.

Am bwy ydym yn chwilio?

•    Rydym yn chwilio am rywun gyda phrofiad blaenorol yn un o’r canlynol: plaid Wleidyddol Gymreig, Gwasanaeth Sifil Cymru, Senedd Cymru, neu swydd ymchwil polisi neu faterion cyhoeddus
•    Bydd gennych wybodaeth drylwyr am brosesau a systemau gwleidyddol llywodraethu datganoledig yng Nghymru
•    Sgiliau ysgrifennu rhagorol a’r gallu i gyflawni gwaith arolygu a dadansoddi ansoddol a meintiol yn hanfodol, ac mae angen sgiliau cyflwyno cryf hefyd.
•    Parodrwydd i weithio oriau afreolaidd (nosweithiau a phenwythnosau) yn ôl y galw.

Yn ogystal â gyrfa foddhaus gyda’r FSB, byddwch yn cael mantais hefyd o:

•    26 diwrnod o wyliau y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc gyda’r opsiwn i brynu 3 diwrnod gyda’ch Pot Hyblyg Blynyddol*
•    Pot Hyblyg Blynyddol* i’w wario ar fuddion yn cynnwys pensiwn ychwanegol, gwyliau ychwanegol, yswiriant salwch difrifol ychwanegol, yswiriant bywyd ychwanegol, cynllun beicio i’r gwaith ac aelodaeth campfa ratach
•    Cynllun arian iechyd* (Mynediad at hawlio buddion niferus yn ôl, yn cynnwys tuag at driniaeth ddeintyddol, optegol, triniaeth traed, ffisiotherapi, cwnsela, iechyd a lles)
•    Yswiriant salwch difrifol ac yswiriant diogelu incwm*
•    Gwell Tâl Mamolaeth a Thadolaeth 
•    Mynediad at raglen gymorth i weithwyr ac at swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl
•    Pensiwn Personol Grŵp (GPP)

*Yn gymwys ar ôl cwblhau cyfnod prawf ac yn amodol ar delerau

Sut i wneud cais

Pob cais i’w dderbyn erbyn 13 Medi 2026. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu cadw ar ffeil am 6 mis ar y mwyaf a’u hadolygu os yw’r cylch cyntaf o ymgeiswyr yn aflwyddiannus.

I wneud cais am y swydd hon e-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol yn manylu ar sut ydych yn cwrdd â’r meini prawf hanfodol at HR.Recruitment@fsb.org.uk.   

 

Gwybodaeth ychwanegol

Pan fyddir yn eu cyfweld rhaid i bob ymgeisydd allu darparu eu tystysgrifau addysg uchaf fel y’u rhestrir ar eu CV a gwiriad o’u cymhwysedd i weithio yn y Deyrnas Unedig.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae’r FSB wedi ymrwymo i drin yr holl weithwyr presennol a phob darpar weithiwr yn gyfartal ac nid yw’n goddef gwahaniaethu ar sail oed, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, neu briodas a phartneriaeth sifil. Credwn fod achos cryf dros yr agenda Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a dyheuwn am gael gweithle amrywiol a chynhwysol, ble gall bob gweithiwr ddod â’u hunain cyfan i’r gwaith. Rydym yn annog yn gryf i ymgeiswyr â chymwysterau addas o amryw o gefndiroedd wneud cais ac ymuno â’r FSB. Dylai ymgeiswyr ag anabledd sydd ag angen addasiadau rhesymol gysylltu â’r adran Adnoddau Dynol ar hr.recruitment@fsb.org.uk. 

Cynghorir ymgeiswyr i wneud cais yn gynnar. Rydym yn cadw’r hawl i gau swydd wag cyn y dyddiad cau os derbynnir nifer uchel o geisiadau. Os ydych yn llwyddiannus ac yn cael eich rhoi ar y rhestr fer i’ch cyfweld byddir yn cysylltu â chi trwy e-bost.