Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyfle i fod yn chi.
Cyfle i gael eich grymuso.
Cyfle i fod yn un o raddedigion Trafnidiaeth Cymru.
Unigolyn Graddedig Cynllunio Trafnidiaeth
Lleoliad: Pontypridd neu Wrecsam
Math o gontract: Cyfnod penodol o 22 mis
Mae’r swydd hon yn cynnig gweithio hybrid o swyddfa Pontypridd/Wrecsam ac o gartref, oriau gweithio hyblyg a theithio’n achlysurol i’r safle neu leoliadau swyddfa eraill yn ôl yr angen.
Ein Cynllun Arweinwyr y Dyfodol i Raddedigion
P’un a ydych chi’n pontio o fyd addysg neu eisiau datblygu eich sgiliau arwain, bydd ein cynllun i raddedigion yn eich helpu i sbarduno eich gyrfa a gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru.
Beth fydd fy nghyfrifoldebau?
Bydd yr Unigolyn Graddedig Cynllunio Trafnidiaeth yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni agenda integreiddio aml-ddull TrC a bydd yn helpu gyda phrosiectau a thasgau sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn elfen allweddol o system drafnidiaeth integredig.
A oes unrhyw ofynion hanfodol?
Dylech gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol, yn enwedig y rhai a restrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
Sylwch, i fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun hwn i Raddedigion, mae'n rhaid bod llai na 2 flynedd wedi bod ers i chi raddio pan fyddwch yn gwneud cais neu rhaid ichi fod wedi cwblhau’r holl waith dysgu ar gyfer eich gradd meistr pan fydd y cynllun yn dechrau ym mis Medi. Os cewch eich penodi i'r swydd, bydd eich cynnig yn amodol ar basio'r radd meistr.
Sylwch, mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU os cewch eich penodi i’r swydd. Dydyn ni ddim yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.
Sgiliau Cymraeg
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gallu sgwrsio neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y Camau Nesaf
Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i gael gwybod mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Talent Gynnar i gael sgwrs.
Diwrnod Asesu
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd chi i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.
Cyfle Cyfartal
Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a phobl o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol, sef bod â gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.
Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni hyd eithaf ein gallu. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, cofiwch roi gwybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.
Gwybodaeth Arall
Yn TrC, rydyn ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd dysgu, mae arnon ni eisiau asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain. Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth deallusrwydd artiffisial. Os byddwn ni’n canfod cynnwys sydd wedi’i baratoi â deallusrwydd artiffisial, ni fyddwn yn gallu ystyried y cais, yn anffodus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y dyddiad cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau wedi dod i law.