Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion â phrofiad helaeth yn y maes am swydd cyfieithydd gyda’r Tîm Cyfieithu yn
CBAC. Bydd yr unigolyn yn gweithio mewn adran brysur ac yn cyfrannu at sicrhau bod CBAC yn darparu gwasanaeth
dwyieithog llawn i’w gwsmeriaid a’i randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol.
Yr her
CBAC yw prif gorff dyfarnu Cymru. Ymhlith yr hyn yr ydym yn ei gyfrannu at ein cymunedau addysg y mae darpariaeth
cymwysterau dibynadwy a chefnogaeth arbenigol, fel y gall ein dysgwyr gael y cyfle i gyrraedd eu potensial yn llawn.
Dyma gyfle gwych felly i fod yn rhan o gorff sy'n annog ac yn gwella meddyliau'r dyfodol.
Y rôl
Mae hon yn rôl sy'n allweddol o ran sicrhau bod CBAC yn cynnig gwasanaeth dwyieithog llawn i'w gwsmeriaid a'i
randdeiliaid. Un o’i nodau hanfodol yw cynnal safonau ieithyddol uchel CBAC a gwneir hynny drwy drafod a chydweithio.
Disgwylir i'r unigolyn wneud defnydd llawn o feddalwedd cof cyfieithu (Déjà Vu) wrth ei waith bob dydd, felly byddai’n
fanteisiol i unrhyw ymgeisydd fod â phrofiad o weithio gyda meddalwedd cof cyfieithu.
Yr unigolyn
I ffynnu yn y rôl hon, byddwch chi'n aelod cydwybodol a gweithgar o'r tîm ac yn gallu cyfathrebu'n rhwydd yn y Gymraeg
a'r Saesneg. Gallwch dalu sylw gofalus a manwl gywir i'ch gwaith a bydd gennych ddiddordeb ym maes terminoleg y
Gymraeg. Byddwch chi’n cydweithio’n agos ag aelodau eraill y Tîm Cyfieithu ac aelodau'r Gwasanaeth Iaith yn ehangach,
ond byddwch chi hefyd yn gallu gweithio’n annibynnol i gyflawni tasgau’n brydlon yn ôl amserlenni tynn. Mae CBAC yn un
o'r cyrff sy'n ganolog i'r byd addysgu ac asesu yng Nghymru ac mae'n bwysig bod ei ddeunyddiau'n cyfateb i'r hyn sydd ar
gael yn ehangach.
Ein buddion
Yn CBAC, rydym yn falch o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion
ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol)
wedi'u haddasu ar gyfer patrymau gweithio rhan-amser / cywasgedig, gwersi Cymraeg am ddim, cynllun pensiwn hael a
nifer o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd. Gall dilyn gyrfa gyda CBAC fod yn hynod o werthfawr a byddwch chi'n cael eich
annog i ddilyn y cyfleoedd gwych sydd ar gael i ddatblygu eich sgiliau, yn broffesiynol ac yn bersonol.
Rydyn ni'n gweithredu model gweithio hybrid, sy'n galluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i rannu ei amser rhwng gweithio yn
swyddfeydd CBAC a gweithio gartref, yn dibynnu ar anghenion y busnes. Gwahoddir ceisiadau felly gan unigolion ar draws
y DU ond bydd gofyn gweithio'n rheolaidd o'n swyddfeydd yng Nghaerdydd – er y gellir trafod rhywfaint o hyblygrwydd o
ran hyn, mae'r tîm yn mynychu'r swyddfa 1 diwrnod y mis.
Os hoffech wybod mwy am y rôl hon, neu am weithio yn CBAC, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm Adnoddau Dynol
(AD@cbac.co.uk), a fydd yn fwy na pharod i helpu.
Rôl cyfrwng Cymraeg yw hon felly bydd gofyn i unrhyw ymgeiswyr ddangos eu gallu i’r safon ddigonol yn rhan o’u
cais.
Dyddiad cau: 23:59; dydd Sul 20 Medi 2026
Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 28 Medi 2026
The above advertisement is for a post as Translator at WJEC. Fluency in Welsh and English is an essential
requirement for the post. Applications should be submitted bilingually or through the medium of Welsh.