A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Swyddog Gweithredol Marchnata / Swyddle
Swydd:
Uwch Swyddog Gweithredol Marchnata
Lleoliad:
Gweithio o Gartref
Cyflog:
Cyflog cychwynnol o £29,000
Cyfeirnod:
202602BF
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Business in Focus
Dyddiad Cau:
04-03-2026

Y Cytundeb

Business in Focus yw prif bartner cyflawni Partneriaeth Menter Cymru (EPC), ynghyd â Menter Môn, M-SParc a rhwydwaith o asiantaethau cymorth ledled Cymru. Mae EPC wedi llwyddo i ennill y contract i gyflwyno gwasanaeth Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor a chymorth i entrepreneuriaid ledled Cymru.

Mae'r Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes yn canolbwyntio ar ddarparu ystod eang o gyngor i bobl ifanc ac egin fusnesau drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cymorth digidol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Bu cais Partneriaeth Menter Cymru i ddarparu gwasanaethau cyngor Busnes Cymru, Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes a’r Gwasanaeth Twf a Datblygu Busnes yn un llwyddiannus.

 

Y Swydd

Mae’r Swyddog Gweithredol Marchnata ac Ymgysylltu yn hyrwyddo entrepreneuriaeth ledled Cymru drwy greu cynnwys o ansawdd da, gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol, ymgysylltu â phartneriaid, cefnogi digwyddiadau ac adrodd ar sail data.

Mae deiliad y swydd yn gweithio’n agos â’r Rheolwr Marchnata, timau cyflawni a chydweithwyr ehangach Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes i sicrhau bod yr holl ddeunydd marchnata yn gyfredol, yn effeithiol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau gwasanaeth.

Yn ogystal â’r prif gyfrifoldebau marchnata, mae’r swydd yn cyfrannu at weithgarwch ehangach Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes (ESU) drwy gysylltu’n rheolaidd â Llywodraeth Cymru, tîm rheoli ESU Busnes Cymru a rhanddeiliaid allweddol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi prosiectau ar y cyd, cyfrannu at ddatblygu Ymgysylltu ag Entrepreneuriaeth ar draws ymgyrch Busnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru, a gweithio gyda phartneriaid i feithrin dealltwriaeth o entrepreneuriaeth a chyd-greu gweithgarwch sy’n ysbrydoli pobl ifanc ac entrepreneuriaid uchelgeisiol ledled Cymru.

Mae dealltwriaeth gref o Gymru (yn enwedig pobl ifanc) a’r sefyllfa entrepreneuriaeth ehangach yn hanfodol. Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol iawn.

 

Y Cyfrifoldebau

 

Cefnogi ymgyrchoedd a chyflawni marchnata

  • Cyflawni ymgyrchoedd marchnata i’r tîm Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes, gan gynnwys Syniadau Mawr Cymru.
  • Cynnal cysondeb o ran brand a rheoli sianeli cyfryngau cymdeithasol Syniadau Mawr Cymru.
  • Creu a chyhoeddi cynnwys o ansawdd da (straeon, fideos, lluniau).
  • Cynllunio a chynnal calendrau cynnwys.
  • Ceisio cyrraedd pobl heb dalu am hysbysebion a hyrwyddiadau ac annog ymgysylltu â chymunedau.
  • Monitro cystadleuwyr a thueddiadau i sicrhau bod cynnwys yn parhau’n gyfredol.
  • Creu deunyddiau hyrwyddo ac asedau digidol.
  • Cefnogi adrodd data a darparu cipolygon y gellir gweithredu arnynt.
  • Cyfrannu at strategaethau cynnwys a thwf.
  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol ar draws cyrhaeddiad, ymgysylltiad a pherfformiad ymgyrch.

 

Creu cynnwys a chyfryngau cymdeithasol

  • Creu cynnwys sydd wedi’i deilwra i bobl ifanc, entrepreneuriaid uchelgeisiol a busnesau sydd yn y camau cyntaf.
  • Gwybodaeth gyfredol am dueddiadau, platfformau a diwylliant amrywiol pobl ifanc ledled Cymru.
  • Amserlennu a chyflawni gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol i wella gwelededd ac ymgysylltiad.

 

Cydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaethau

  • Magu cysylltiadau â phartneriaid, dylanwadwyr, colegau, ysgolion a chymunedau menter.
  • Cysylltu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid am gymeradwyaeth ac i gydymffurfio.
  • Cynrychioli’r rhaglen mewn digwyddiadau a chyfarfodydd allanol.

 

Cefnogi digwyddiadau ac ymgysylltu

  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni digwyddiadau, gan gynnwys cydlynu asiantaethau, cyfathrebu â chyfranogwyr a chreu cynnwys.
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt i ddigwyddiadau, gan reoli ceisiadau ac ymholiadau sy’n dod i mewn.
  • Cynorthwyo â dogfennau, nwyddau a deunyddiau i ddigwyddiadau.
  • Mynd i ddigwyddiadau ledled Cymru, weithiau y tu hwnt i oriau arferol.

 

Adrodd, cipolygon a data

  • Rheoli data marchnata yn gywir.
  • Cynhyrchu adroddiadau ar sail cipolygon i lywio gweithgarwch yn y dyfodol.
  • Cynnal ymchwil i dueddiadau, cystadleuwyr a chyrraedd y gynulleidfa.

 

Cefnogaeth weinyddol a gweithredol

  • Codi archebion prynu a rheoli ceisiadau am nwyddau.
  • Cefnogi’r Rheolwr Marchnata i wella effeithlonrwydd ac effaith y brand.

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy’r gefnogaeth a ddarperir i gleientiaid Busnes Cymru.
  • Cynnal ymwybyddiaeth, hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyfredol ynghylch materion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Darparu a datblygu gwasanaeth cynhwysol yn unol â gwerthoedd Business in Focus a gofynion cytundebol Llywodraeth Cymru.

 

Mae'r uchod yn ddiffiniad bras o gyfrifoldebau'r swydd. Nid yw’n cynnwys pob agwedd ar y swydd y gallai fod gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â hwy. Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gwaith deiliad y swydd yn seiliedig ar anghenion y busnes.