A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Peiriannydd Data Arweiniol / Swyddle
Swydd:
Peiriannydd Data Arweiniol
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£51,000 - £56,000 Dibynnu ar Brofiad
Cyfeirnod:
REC01438
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y Peiriannydd Data Arweiniol yn dylunio, yn creu ac yn cynnal llwyfan a phiblinellau data cadarn, graddadwy a diogel sy'n galluogi Trafnidiaeth Cymru (TrC) i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata.

  • Sbarduno'r gwaith o ddarparu llwyfan data cadarn sy'n barod ar gyfer y dyfodol drwy ddatblygu a defnyddio piblinellau data graddadwy gan ddefnyddio dull Microsoft Azure, defnyddio offer fel Fabric, Data Factory, Databricks, a Synapse Analytics i sicrhau bod llifoedd gwaith yn fodiwlaidd, yn brofadwy ac yn cael eu llywodraethu'n dda. Mae hyn yn sail i dwf sefydliadol, yn cefnogi dadansoddeg draws-swyddogaethol, ac yn galluogi’r broses o wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata.

 

  • Gweithredu arferion rheoli data cadarn sy'n canolbwyntio ar barthau data, ansawdd a llinach drwy integreiddio data o nifer o ffynonellau mewnol ac allanol i system gydlynol i sicrhau bod data'n gynhwysfawr, yn gywir ac yn hawdd ei olrhain, gan gefnogi dadansoddiadau ac adroddiadau’r busnes.

 

  • Dylunio, gweithredu ac optimeiddio modelau data ffisegol sy'n cyd-fynd â saernïaeth piblinell, trwy ddefnyddio'r dull sy'n sicrhau perfformiad ymholiadau effeithlon, storfa raddadwy, a dull integreiddio cadarn ac sy'n darparu prosesu data addasadwy ac effeithlon o ran adnoddau, i ddiwallu gofynion dadansoddol a gweithredol esblygol y sefydliad.

 

  • Trawsnewid data crai yn wybodaeth ystyrlon drwy ddatblygu a chynnal prosesau ETL (Echdynnu, Trawsnewid, Llwytho) wedi'u teilwra sy’n galluogi prosesau wedi'u haddasu, gan rymuso rhanddeiliaid i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar wybodaeth prosesedig o ansawdd uchel.

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd neu MSc mewn Cyfrifiadureg/Gwyddor Data neu Beirianneg Data, neu brofiad cyfatebol mewn peirianneg data, rheoli data, neu faes cysylltiedig. 
  • Profiad amlwg o ddylunio, creu a chynnal piblinellau data gan ddefnyddio offer fel Azure Data Factory, Databricks, neu Apache Spark, gan ddilyn egwyddorion ETL/ELT modern.
  • Profiad o ddefnyddio ieithoedd rhaglennu, fel Python, Scala ac SOL ac o drawsnewid, profi ac awtomeiddio data.
  • Gwybodaeth amlwg am fodelu data (sgemâu seren/pluen eira, modelau dimensiynol) a storio data ar lwyfannau fel Azure Synapse Analytics. 

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.