Bod yn chi eich hun
Bod yn rymus
Bod yn brentis Trafnidiaeth Cymru
Prentis Cynnal a Chadw Cerbydau (Caergybi)
Math o gontract: Contract am gyfnod penodol o 4 flynedd
**Sylwch: Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol yr Academi Prentisiaeth. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Ein Hacademi Prentisiaeth
Os ydych chi’n symud i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu’n newid gyrfa ac yn awyddus i gael rhagor o gymwysterau heb ddilyn y llwybr addysgol traddodiadol, mae’n bosibl mai prentisiaeth gyda ni yw’r union beth i’ch helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau o ran gyrfa.
Rydyn ni’n credu’n gryf bod pawb yn haeddu cyfleoedd i gael prentisiaethau, a’n nod yw symud tuag at sefydliad amrywiol ar bob lefel. Rydyn ni am fod yn gwbl gynrychiadol o’n cymunedau amrywiol ledled Cymru.
Beth fyddai fy nghyfrifoldebau?
Byddwch yn cael amrywiaeth o brofiadau tra byddwch yn astudio at gymwysterau a fydd yn datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch ymddygiad, gan eich galluogi i gefnogi’r tîm ehangach a’ch galluogi i ddod yn alwedigaethol gymwys yn y diwydiant Tyniant a Cherbydau.
Byddwch wedi cofrestru gyda Choleg Menai a Choleg y Cymoedd yn ystod eich prentisiaeth. Byddwch yn cael diwrnod astudio am ddwy flynedd gyntaf y brentisiaeth (gyda Choleg Menai), lle byddwch yn gweithio at eich Diploma City & Guilds Lefel 3 mewn Peirianneg.
Yn ystod eich trydedd a’ch pedwaredd flwyddyn, byddwch yn gweithio at gael eich HNC mewn peirianneg. Bydd cyfle hefyd i astudio at eich NVQ.
Er mai Caergybi fydd eich depo, bydd gofyn i chi deithio i ddepos eraill TrC bob chwarter dros y rhaglen 4 blynedd. Bydd hyn yn golygu eich bod yn gallu cymryd rhan yn yr hyfforddiant gofynnol, yn cael eich asesu ar sail eich cymwyseddau craidd ac yn ennill amrywiaeth o brofiadau. Bydd gofyn i chi ymweld â’n depos ym Machynlleth, Treganna a Ffynnon Taf.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i ganolfan asesu naill ai yn ein prif swyddfa ym Mhontypridd, neu yn ein safleoedd yn Nhreganna/Ffynnon Taf.
A oes unrhyw ofynion hanfodol?
A yw’n addas i mi?
I’ch helpu i benderfynu, meddyliwch a yw’r canlynol yn berthnasol i chi.
Oherwydd gofynion teithio’r swydd hon, rhaid i chi fod yn o leiaf 17 oed i gyflwyno cais a rhaid i chi fod yn 18 oed erbyn mis Medi 2026.
Ni ddylech chi fod wedi ennill cymhwyster tebyg neu lefel uwch yn barod na’r swydd brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg, ni fyddwch chi’n gymwys i wneud cais am brentisiaeth Peirianneg. Fodd bynnag, gallech chi wneud cais am brentisiaeth arall mewn proffesiwn gwahanol, fel Cyllid.
Sgiliau Cymraeg
Rydyn ni’n croesawu pobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y camau nesaf
Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i ddysgu mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs.
Dylech chi gynnwys eich holl gymwysterau perthnasol fel y’u rhestrir yn y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais fel arall.
Diwrnod Asesu
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, byddwn ni’n eich gwahodd i ddiwrnod asesu cyfeillgar a hamddenol, gyda chyfweliad terfynol i ddilyn.
Cyfle cyfartal
Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a’r rheini o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw'r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni'r gofyniad hanfodol o fod â gradd berthnasol, rydyn ni’n eich annog i wneud cais - gallai eich sgiliau, eich profiad a'ch safbwynt unigryw chi fod yn berffaith i ni.
Rydyn ni am i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, rhowch wybod i ni. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.
** Sylwch: Wrth lenwi eich cais, os ydych chi’n cael trafferth rhoi’r dyddiadau i mewn gan ddefnyddio’r calendr, rhowch nhw eich hun er mwyn sicrhau bod y dyddiadau’n cael eu cofnodi **
Bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau’r Cynllun Prentisiaeth ddechrau mis Medi 2025.
*Rydyn ni’n cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Rydyn ni’n annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth.