A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Pennaeth Marchnata / Swyddle
Swydd:
Pennaeth Marchnata
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£63,457.00 y flwyddyn
Cyfeirnod:
202603S4C
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
31-03-2026

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

 

Pam ymuno â S4C?

Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Marchnata ysbrydoledig i arwain ar waith hyrwyddo, ymgysylltu a datblygu brand S4C ar adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu.

Mewn tirwedd ddarlledu gystadleuol, aml-blatfform, mae’r rôl yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn o frand a hyrwyddo gyda’r angerdd am ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd a chreu ymgyrchoedd sy’n dal sylw a denu gwylwyr newydd.

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

  • Ar Dy Orau
  • Balch o S4C
  • Dathlu pawb
  • Cer Amdani

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C ar ddechrau pennod newydd yn ei hanes dan ofal Prif Weithredwr a Chadeirydd newydd. Bydd disgwyl i chi gyfrannu at lwyddiant ein strategaeth bum mlynedd gan arwain a gweithredu cynllun marchnata newydd er mwyn tyfu cynulleidfaoedd, codi proffil a gwella canfyddiad S4C mewn hinsawdd gystadleuol iawn.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn angerddol am gynnwys S4C ac sydd â gweledigaeth ddigidol arloesol i ymgysylltu a chreu argraff gyda chynulleidfaoedd newydd.

 

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata, byddwch yn gyfrifol am arwain timau o unigolion creadigol sy’n meddu ar arbenigaethau amrywiol:

  • Tîm marchnata sy’n trefnu a chydlynu ymgyrchoedd hyrwyddo ar draws platfformau
  • Tîm creadigol sy’n cynhyrchu asedau hyrwyddo ar gyfer S4C a’i ymgyrchoedd cynnwys

Fel Pennaeth Marchnata, byddwch yn rhan allweddol o dîm o benaethiaid sy’n gyfrifol am hyrwyddo S4C a’i holl gynnwys, gan gyd-weithio’n agos gyda’r Pennaeth Cyfathrebu a’r Pennaeth Digidol, yn ogystal â’r Pennaeth Ymchwil.

Gyda chefnogaeth eich arweinwyr tîm, byddwch yn gweithredu cynllun marchnata uchelgeisiol, gan ddatblygu arloesedd digidol i sicrhau llwyddiant wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd ac ehangu gwylio.

Mae hon yn rôl bwysig ac yn weladwy iawn o fewn a thu allan i’r sefydliad. Byddwch yn adeiladu perthnasoedd cryf gyda chwmnïau cynhyrchu a rhanddeiliaid, ac yn hyrwyddo tegwch a chynhwysiant yn y gweithle.

 

Manylion eraill

  • Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 diwrnod yn y swyddfa)
  • Cyflog: £63,457 y flwyddyn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos (gyda hyblygrwydd)
  • Cyfnod prawf: 6 mis
  • Gwyliau: 26 diwrnod y flwyddyn + gwyliau banc
  • Pensiwn: 10% cyfraniad gan S4C, 5% gan y gweithiwr
  • Teithio: O fewn y DU fel rhan o’r swydd

 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9yb, 31 Mawrth 2026 i:

Pobl@s4c.cymru
neu
Pobl a Diwylliant,
Canolfan S4C,
Yr Egin,
Caerfyrddin,
SA31 3EQ

Dyddiad Cyfweliadau: 21 Ebrill 2026 (lleoliad i’w gadarnhau)

Nodyn: Nid ydym yn derbyn CV. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais yn Saesneg.