A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cydlynydd Digwyddiadau / Swyddle
Swydd:
Cydlynydd Digwyddiadau
Lleoliad:
Caerdydd, Cymru
Cyflog:
Band 2 £33,233 - £42,727
Cyfeirnod:
CydlynyddDigwyddiadau-EventsCoordinator
Math o Swydd:
Parhaol ( Parhaol (37 awr yr wythnos) )
Cleient:
Plaid Cymru
Dyddiad Cau:
27-07-2026

Manyleb Swydd: 

Cydlynydd Digwyddiadau 

 

Teitl y Swydd: 

Cydlynydd Digwyddiadau 

 

Lleoliad: 

Pencadlys Plaid Cymru, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd 

Mae’r swydd hon yn cynnig peth gweithio hybrid. 

 

Math o Gontract 

Llawn  Amser 

 

Rheolwr Llinell 

Pennaeth Polisi 

 

Cyflog 

Band 2 £33,233 - £42,727  

Gwneir penodiadau fel arfer ar ben isaf y raddfa 

 

Oriau Gwaith 

37 awr yr wythnos, gyda gofyn i weithio ambell waith gyda’r nosau ac ar benwythnosau. Mae Plaid Cymru yn gweithredu system o oriau gweithio hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn gyda dyddiau braint ychwanegol.  

 

 

Pwrpas y rôl:  

Dan oruchwyliaeth y Pennaeth Polisi a’r uwch-dîm rheoli, bydd deiliad y swydd yn cydlynu trefniadaeth cynadleddau a digwyddiadau eraill y blaid, yn trefnu digwyddiadau codi arian, yn ogystal â rheoli presenoldeb y blaid mewn digwyddiadau allanol cenedlaethol fel yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol. Bydd y rôl yn golygu ymwneud yn agos â phartneriaid a gweithio’n rheolaidd ar draws timau ym mhencadlys y blaid er mwyn sicrhau y cyflwynir y digwyddiadau i safon broffesiynol. 

  

Prif Gyfrifoldebau   

  • Gweithredu strategaeth ar gyfer datblygu cynadleddau a digwyddiadau, gan gynnwys datblygu ffrydiau incwm 

  • Archebu lleoliadau a chysylltu â hwy 

  • Caffael a chysylltu â chontractwyr trydydd-parti 

  • Cynnal perthynas waith agos gyda sefydliadau sy’n bartneriaid sydd yn mynychu ac yn noddi digwyddiadau’r blaid; gan gynnwys undebau, elusennau, cyrff diwydiannau a gweithwyr proffesiynol ym maes materion cyhoeddus 

  • Gweithio gyda chydweithwyr ar staff i ofalu bod digwyddiadau wedi eu brandio’n gywir a bod gwedd broffesiynol iddynt 

  • Gweithio’n agos gyda chydweithwyr o bob rhan o’r blaid i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau adeg digwyddiadau’r blaid, a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt 

  • Rheoli archebion gan fynychwyr digwyddiadau 

  • Cysylltu â Phwyllgor Llywio Cynadleddau’r blaid a chydweithwyr yn y tîm polisi er mwyn sicrhau bod rhaglenni cynadleddau yn adlewyrchu amcanion y blaid 

  • Rheoli’r gofynion staff adeg digwyddiadau’r blaid, gan gynnwys rhoi rotas staff ar waith a gwneud yn siŵr fod cludiant a llety wedi ei archebu 

  • Monitro incwm a gwariant digwyddiadau, a sicrhau cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol 

 

 

Sgiliau a Phrofiad Allweddol 

Hanfodol:  

  • Rheoli Amser a Bod yn Drefnus: Y gallu i gadw golwg ar sawl prosiect ar y tro, gan flaenoriaethu terfynu amser fel sy’n briodol 

  • Amserlennu a Chynllunio Strategol: Y gallu i gydlynu calendrau, archebu lleoliadau, a chysylltu â nifer fawr, o bosib, o sefydliadau eraill 

  • Llythrennedd Cyfrifiadurol a Medru gyda Meddalwedd: medru mewn cymwysiadau fel Microsoft 365, Excel, Outlook. 

  • Disgresiwn a Chyfrinachedd: Gweithredu’n onest wrth drin data sensitif o natur ariannol neu sy’n ymwneud â chleientiaid, a bod yn ymwybodol o ystyriaethau moesegol 

  • Datrys Problemau a Meddwl yn Feirniadol: Y gallu i feddwl ar eich traed pan fydd yr annisgwyl yn digwydd a logisteg yn newid  

  • Sgiliau Rhyngbersonol a Chyfathrebu: Bod yn bwynt cyswllt proffesiynol, hawdd mynd atoch a chyfeillgar i leoliadau, mudiadau sy’n bartneriaid, a chontractwyr. 

  • Cyfathrebu: Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg 

 

Dymunol: 

 

  • Profiad o weithio mewn sefydliadau gwleidyddol 

  • Gwybodaeth o gyd-destun gwleidyddol Cymru 

 

Dyddiad cau am geisiadau: Hanner dydd ar ddydd Llun, Gorffennaf 27 2026 

Dyddiad creu rhestr fer: Dydd Llun, Awst 10 2026 

Cyfwelir ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer ar: ddydd Llun, Awst 17 2026 

Anfonwch ffurflenni cais wedi eu cwblhau at: paula.reed@plaid.cymru