A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arweinydd Cymorth i Gyflogwyr / Swyddle
Swydd:
Arweinydd Cymorth i Gyflogwyr
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£49,698 - £54,687
Cyfeirnod:
202602GCC
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Gofal Cymdeithasol Cymru
Dyddiad Cau:
15-03-2026

Pwrpas y swydd

Bydd yr Arweinydd Cymorth i Gyflogwyr yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni strategaeth Cymorth i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol Cymru drwy arwain ffrydiau gwaith a chynlluniau sy’n ymateb i anghenion y sector.

Bydd deiliad y swydd yn llunio ac yn gweithredu dulliau ymgysylltu, yn meithrin cysylltiadau cryf â chyflogwyr a phartneriaid, ac yn hyrwyddo cydweithio ar draws y sefydliad. Byddant yn datblygu adnoddau a chanllawiau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwella'r gweithlu, gan ddefnyddio data a gwybodaeth i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.

Gan weithredu fel cynrychiolydd Gofal Cymdeithasol Cymru, bydd y rôl yn hyrwyddo safonau uchel, gwelliant parhaus, a gwerthoedd sefydliadol ym mhob agwedd ar y gwaith.

 

Prif gyfrifoldebau

 

Rheoli perthnasoedd a chydweithio

  • Cydweithio ar draws y sefydliad i lunio, cynllunio a gweithredu systemau, seilwaith a chyfathrebu’r gwasanaeth.
  • Datblygu a gweithredu prosesau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) i sicrhau profiad cyson o ansawdd uchel.
  • Cofnodi anghenion y sector a dylunio dulliau i ymateb iddynt.
  • Datblygu perthnasau cryf â chyflogwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru.
  • Gweithio’n effeithiol mewn rhwydweithiau a phartneriaethau allanol.

 

Ymgysylltu â’r sector

  • Datblygu methodolegau ymgysylltu amrywiol (wyneb yn wyneb, ar-lein, galwadau am dystiolaeth ac ati).
  • Cynrychioli’r sefydliad drwy gyflwyniadau a sesiynau ymgysylltu o ansawdd uchel.

 

Datblygu polisi ac adnoddau

  • Hyrwyddo safonau uchel wrth ddatblygu adnoddau i ddiwallu anghenion y sector.
  • Datblygu pecynnau cymorth, canllawiau ac adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Sicrhau bod cynnwys y wefan a sianeli eraill yn gyfoes ac yn unol â safonau cyhoeddi.

 

Rheoli prosiectau a newid

  • Cynllunio, cyflawni a gwerthuso prosiectau o fewn amserlen a chyllideb.
  • Cyflawni prosiectau sy’n cyfrannu at gamau gweithredu’r cynllun busnes.

 

Data a gwybodaeth

  • Paratoi adroddiadau a chyflwyniadau o safon uchel.
  • Defnyddio data i lywio cyfathrebu ac ymgysylltu.

 

Yn eich maes gwaith, byddwch hefyd yn:

  • Rheoli amser a blaenoriaethu tasgau.
  • Annog diwylliant o welliant parhaus ac arloesi.
  • Hyrwyddo adnoddau ac arbenigedd y sefydliad.
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a goruchwyliaeth.
  • Dirprwyo ar ran uwch-reolwyr pan fo angen.

 

Llywodraethu

  • Cadw cyfrinachedd a glynu wrth bolisïau’r sefydliad.
  • Gweithio’n rhagweithiol fel rhan o dîm.
  • Ymgymryd â hyfforddiant a chefnogi datblygiad eraill.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i lefel y swydd.

 

Manyleb y Person

Swydd: Arweinydd Cymorth i Gyflogwyr

Gwerthoedd y Sefydliad

  • Parchu Pawb: Gweld pawb fel unigolion a’u trin ag urddas a pharch.
  • Dull Proffesiynol: Gweithredu’n gyfrifol a phriodol, gan ddal eich gilydd i gyfrif.
  • Dysgu Drwy’r Amser: Gwella ein hunain a chefnogi eraill i fod y gorau y gallwn fod.
  • Cynnwys Pobl: Annog a galluogi pawb i weithio gyda’i gilydd.

 

  Hanfodol Dymunol
Cymwysterau Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.  
Gwybodaeth Gwybodaeth am bolisi a chyd-destun gweithredol Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r materion cyfredol sy’n ymwneud â datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dealltwriaeth o ddulliau dadansoddi data.
Profiad Profiad o hwyluso ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau a gwella ansawdd gwasanaethau.

Profiad o arwain prosiectau neu ffrydiau gwaith a defnyddio data a gwybodaeth i lywio dylunio a darparu gwasanaethau.

Profiad o gynllunio gwerthusiadau, dadansoddi adborth a rhoi'r dysgu ar waith.

Profiad o ddatblygu a chyflwyno cynnwys diddorol ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.

Profiad o gynhyrchu deunyddiau ysgrifenedig o ansawdd uchel megis canllawiau, pecynnau cymorth, adroddiadau neu adnoddau eraill.

Profiad o ddefnyddio offer, llwyfannau a data digidol yn hyderus i gefnogi ymgysylltu a darparu gwasanaethau.
Profiad o weithio mewn cyd-destun gofal cymdeithasol.

Profiad o adeiladu prosesau a gwasanaethau newydd ar gyfer cwsmeriaid o'r dechrau.

Profiad o roi prosesau gwasanaeth i gwsmeriaid ar waith.

Dealltwriaeth o ddulliau dadansoddi data, gan gynnwys data meintiol ac ansoddol.

Profiad o lwyfannau digidol a/neu systemau CRM.
Sgiliau a Phriodweddau Sgiliau arwain a chyfathrebu cryf, gyda'r gallu i ddylanwadu ar wybodaeth gymhleth a'i chyflwyno'n glir.

Tystiolaeth o sgiliau rhyngbersonol a meithrin perthynas da.

Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf, gyda'r gallu i weithio'n annibynnol a blaenoriaethu'n effeithiol.

Sylw i fanylion ac ymrwymiad i gyflawni allbynnau o ansawdd uchel.
 
Sgiliau Cymraeg Siarad: Rhugl
Darllen: Gallu darllen deunydd arferol sy'n ymwneud â gwaith gyda chymorth
Ysgrifennu: Gallu paratoi deunydd arferol sy'n ymwneud â gwaith gyda gwirio
Deall: Gallu cynnal pob sgwrs sy'n ymwneud â gwaith