Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ydych chi'n barod i ddefnyddio'ch sgiliau i ysbrydoli a chefnogi pobl wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf tuag at addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth? Ydych chi'n mwynhau helpu cwsmeriaid i fagu hyder a chymryd camau ymarferol i gyflawni eu nodau? Mae Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn chwilio am Anogydd Cyflogadwyedd ymuno â’n tîm – unigolyn a fydd yn ymrwymedig i gefnogi pobl i gyrraedd eu nodau gyrfa. Rydyn ni’n darparu cyfarwyddyd gyrfa hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed ledled Cymru, gan gynnwys trwy raglen Cymru’n Gweithio.
Rydyn ni’n cynnig pecyn buddion deniadol, gan gynnwys amser gweithio hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio gyda grŵp cleientiaid amrywiol, gan gynnwys pobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd newydd neu sy'n gadael addysg, rhieni, oedolion sy'n ddi-waith ac sy'n chwilio am gymorth i fynd yn ôl i’r gwaith, a phobl mewn cyflogaeth sy'n ystyried newid gyrfa. Rydyn ni’n chwilio am gyfathrebwr hyblyg ac effeithiol sy'n hyderus yn cefnogi ein sylfaen cwsmeriaid amrywiol yn y cnawd a thrwy sianeli digidol.
.
Fel Anogwr Cyflogadwyedd, byddwch yn:
Dylech fod ag addysg i safon Lefel 3 neu gyfwerth, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig fel cyngor a chyfarwyddyd, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad ydych chi eisoes yn meddu ar y Diploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfaoedd, byddwn yn darparu'r hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen i gyflawni'r cymhwyster gwerthfawr hwn.
Byddwch yn gallu deall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a gwaith, cynnal sgyrsiau, ac esbonio syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi'u strwythuro'n dda, er mwyn rhannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau neu drefnu gweithgareddau.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Datgeliad Sylfaenol trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w wneud!
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl fod yn anabl oherwydd y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio – ac nid oherwydd eu hamhariad neu wahaniaeth nhw.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dewiswch "Ceisio Nawr" i gael eich ailgyfeirio i wefan recriwtio Gyrfa Cymru, lle gallwch geisio a chael rhagor o wybodaeth am y rôl, ein polisïau cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Noder nad ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.