Swydd:
Goruchwyliwr Depo Caerfyrddin
Lleoliad:
Caerfyrddin
Cyflog:
£38,678
Cyfeirnod:
REC002355
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Ydych chi’n frwd dros wasanaeth i gwsmeriaid ac yn gallu cymell eich hun? Ydych chi wrth eich bodd yn cwrdd â phobl newydd? Ydych chi’n mwynhau mynd yr ail filltir? Os ydych chi, efallai y bydd ein swydd Goruchwyliwr Depo yn addas i chi.


Gan weithio yng ngorsaf drenau Caerfyrddin, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod ein safonau gweithredu uchel a safonau uchel ein gwasanaeth i gwsmeriaid yn cael eu bodloni’n gyson.

 

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Byddwch yn helpu i oruchwylio depos ein criwiau trenau yn y lleoliad hwn, gan sicrhau bod ganddyn nhw’r holl offer sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu lefelau uchel o wasanaeth a phroffesiynoldeb. Ar ben hynny, byddwch yn helpu’r Tîm Rheoli Goruchwylwyr i gynnal safonau uchel ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Caerfyrddin. Bydd y rôl amrywiol hon yn golygu:

  • Goruchwylio a threfnu’r gwaith o redeg a gweithredu trenau’n ddiogel yn y gorsafoedd a’r depos
  • Darparu presenoldeb goruchwyliol ar gyfer y staff sy’n gweithio yn y gorsafoedd neu’n ymweld â nhw
  • Rheoli a dosbarthu’r offer manwerthu/peiriannau tocynnau ar gyfer ein goruchwylwyr a’n staff adwerthu
  • Helpu cwsmeriaid yn y gorsafoedd/ar drenau drwy werthu tocynnau a chynnig cymorth os oes angen
  • Cydlynu staff o ran Rheoli/Adnoddau, o ddydd i ddydd ac ar adegau pan fydd rhywbeth yn tarfu ar y gwasanaeth
  • Rhoi cymorth i gwsmeriaid/darparu teithiau â chymorth, yn enwedig ar adegau pan fydd rhywbeth yn tarfu ar y gwasanaeth

 

 

Y sgiliau a fydd eu hangen arnoch

  • Canolbwyntio’n fawr ar gwsmeriaid ac ymrwymo i ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid bob amser
  • Gwisgo’n drwsiadus
  • Peidio â chynhyrfu dan bwysau
  • Gallu gweithio ar eich liwt eich hun
  • Gallu addasu a datblygu sgiliau newydd yn gyflym
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog

 

Beth arall rydych chi angen ei wybod

Rydyn ni yma i’n cwsmeriaid pryd bynnag y bydd angen iddyn nhw deithio, sy’n golygu y bydd hyd a phatrymau eich shifftiau’n amrywio – felly bydd angen i chi fod yn hyblyg yn eich oriau gwaith.

 

  • Gweithio 4 diwrnod yr wythnos, 35 awr yr wythnos ar gyfartaledd
  • Bydd patrwm eich shifftiau’n cynnwys dechrau’n gynnar/gorffen yn hwyr, yn ogystal â gweithio ar benwythnosau a Gwyliau Banc
  • Gall eich patrwm shifftiau a’ch lleoliad gwaith newid i gwrdd ag anghenion gweithredol

 

Gweler ein disgrifiad swydd sydd ynghlwm i gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â swydd Goruchwyliwr Depo

 

Sgiliau Cymraeg

Mae’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn fanteisiol ar gyfer eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

 

Bydd yr hysbyseb yn cau am 0:00 ar, ond cofiwch y bydd yn cau’n gynnar os bydd digon o geisiadau’n dod i law.