Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Os ydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl sy'n mwynhau datrys problemau, darparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid a chefnogi eich cymuned, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Mae ein Swyddogion Gwasanaeth Cwsmeriaid yn chwarae rhan allweddol wrth helpu preswylwyr i gael cyngor clir a chymorth ymarferol, boed hynny yn Nghanolfan Gyswllt y Ddinas, y Parth Gwybodaeth neu'r Brif Dderbynfa.
Dyma rôl brysur â phobl wrth ei gwraidd, lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn mynd â chwsmeriaid trwy eu hymholiadau, yn darparu gwybodaeth gywir am wasanaethau'r cyngor ac yn sicrhau bod pob cyswllt yn teimlo'n gyfeillgar, yn barchus ac yn ddefnyddiol. Mae'n gyfle gwych os ydych chi'n mwynhau gweithio gyda'r cyhoedd, eisiau gyrfa sefydlog yn y sector cyhoeddus ac yn hoffi bod yn rhan o dîm cefnogol.
Ynglŷn â'r rôl
Byddwch yn ymateb i ymholiadau am ystod eang o wasanaethau'r cyngor. Bydd y rhan fwyaf yn dod dros y ffôn, ond byddwch hefyd yn cefnogi pobl wyneb yn wyneb. Byddwch yn gwrando yn ofalus, yn deall beth sydd ei angen ar y cwsmer ac yn eu helpu i gael y canlyniad cywir. Byddwch hefyd yn rhoi gwybod i ni ble gallai gwybodaeth fod yn gliriach, fel y gallwn barhau i wella ein gwasanaeth.
Byddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm. Ar ddydd Iau, mae’r sifftiau yn rhedeg tan 9pm. Byddwch yn gweithio yn un o'n tri safle ac mae’n bosibl y byddwch yn gweithio yn y rhai eraill, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth. Dyma rôl hybrid, felly fel arfer byddwch yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos ar y safle, fodd bynnag, gall hyn amrywio ar adegau yn unol ag anghenion y gwasanaeth.
Beth rydym yn chwilio amdano
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n gallu siarad ieithoedd cymunedol eraill, fel Wrdw, Pwnjabi, Bengali ac Arabeg, gan fod hyn yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Fodd bynnag, y gofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon yw bod rhugl yn y Gymraeg.
Beth rydym yn ei gynnig
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Tahmina Chowdhury ar 01633 656656.