A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cydlynydd Cymunedol / Swyddle
Swydd:
Cydlynydd Cymunedol
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£36,000
Cyfeirnod:
202605TN
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Tir Natur
Dyddiad Cau:
19-05-2026

Gan gynrychioli Tir Natur yn lleol, bydd y Cydlynydd Cymunedol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau ein bod yn hygyrch ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd ehangach. Byddant yn gyfrifol am feithrin a datblygu cysylltiadau ag aelodau'r gymuned leol, aelodau o'r gymuned fuddiant a gwirfoddolwyr ar draws Tir Natur.  Byddant yn datblygu dealltwriaeth o anghenion a diddordebau’r gwahanol gymunedau, wrth gasglu adborth a syniadau gan y grwpiau hyn er mwyn datblygu ein cymuned ymhellach. 


Bydd y Cydlynydd Cymunedol yn arwain rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer aelodau ein cymunedau amrywiol, gan weithio mewn dull cynhwysol a hygyrch, gyda'r nod o ehangu ein cyrhaeddiad mor eang â phosibl. 


Gan adrodd i'r Arweinydd Cymunedol a gweithio gyda'r Swyddog Rhaglen a Datblygu, byddant yn sicrhau bod ymgysylltiad cymunedol a gweithgaredd gwirfoddol yn cyd-fynd â blaenoriaethau ailwylltio ar y tir. Mae dealltwriaeth o gyd-destun ailwylltio yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. 


Yn Nhir Natur mae ein holl gyfathrebiadau’n cael eu cyflwyno yn unol â’n polisi iaith Gymraeg. Mae sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer cyflawni dyletswyddau’r rôl hon yn effeithiol. 

I wneud cais, anfonwch eich CV at team@tirnatur.cymru ynghyd ag e-bost yn manylu pam eich bod yn addas ar gyfer y rôl.

Dyddiad cau 19 Mai 2026

Mae Tir Natur wedi ymrwymo i dryloywder a chyfle cyfartal drwy gydol y broses recriwtio. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol ac i sicrhau bod ein tîm – gan gynnwys ein staff, ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr – o gefndiroedd amrywiol ac yn cynrychioli cymdeithas yn ehangach. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd yn y sector amgylcheddol, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, y rhai ag anableddau a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.