Swydd: Lleoliad: Cyflog: Cyfeirnod: Math o Swydd : Cleient :
Rheolwr trawsnewid archifau Caerfyrddin £42,683 - £46,514 027953 Parhaol Cyngor Sir Gar | Carmarthenshire County Council

Mae Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin ar fin cael ei drawsnewid. Mae'r Cyngor, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wedi buddsoddi £2.6m mewn cyfleuster newydd sbon yn Llyfrgell Caerfyrddin lle bydd canolfan ymchwil a gwybodaeth o’r radd flaenaf yn gartref newydd i’r casgliad archifau. Mae'r archifau a'r llyfrgell yn cael eu lleoli yn yr un man ac mae'r pwyslais ar drawsnewid Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin mewn modd radical i greu gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr â chynulleidfaoedd amrywiol, a hynny drwy gydweithio helaeth a darparu gwasanaethau llawn dychymyg i'n cymuned.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn arloesol, deinamig a fydd yn arwain datblygiad strategol y gwasanaeth, gan reoli a thrawsnewid y gwasanaeth er mwyn sicrhau rhagoriaeth o ran profiad y cwsmer, ehangu mynediad i'r casgliadau ar draws amrywiol gyfryngau a datblygu cynulleidfaoedd a gwella cyfranogiad. Bydd y rheolwr newid hwn yn weithiwr proffesiynol cymwysedig a medrus iawn ym maes archifau a fydd yn llywio'r gwasanaeth drwy achredu a thu hwnt.

Mae gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg yn ofynnol ar gyfer cyflawni'r swydd hon. Gellir estyn cymorth ar ôl y penodiad i gyrraedd y lefel hon.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Jane Davies, Uwch Reolwr Gwasanaethau Diwylliannol ar janedavies@carmarthenshire.gov.uk neu 01554 742180.