A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

/ Swyddle
Swydd:
Swyddog Gofal Dioddefwyr
Lleoliad:
Pontypool
Cyflog:
£24,921 - £27,351
Cyfeirnod:
6747
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Gwent Police
Dyddiad Cau:
23-05-2024

Ydych chi’n unigolyn empathig a gofalgar sy’n chwilio am yrfa yn cefnogi pobl sydd wedi dioddef a bod yn dyst i drosedd? Mae ein hadran Gwasanaethau Dioddefwyr yn recriwtio swyddogion Gofal Dioddefwyr a Thystion i helpu i arwain pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd trwy’r broses cyfiawnder troseddol. Mae’n swydd hybrid ac yn gyfle gwych i bobl sydd eisiau datblygu yn y maes hwn o waith a phlismona.

Ymgysylltu â dioddefwyr trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngwent i sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, gan gynnwys rhannu gwybodaeth â nhw am y broses cyfiawnder troseddol.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.

Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person. 

Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.

YMGEISWYR MEWNOL: Sylwer na allwn symud eich cais ymlaen at y cam rhestr fer nes y byddwn wedi derbyn eich ffurflen Cymeradwyaeth Rheolwr Llinell. Cyflwynwch y ffurflen hon erbyn y dyddiad cau. Diolch.

Mae Heddlu Gwent yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall (gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig nad ydynt yn amlwg). Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sy’n arddel hunaniaeth LGBT+ ac anabl. Mae Heddlu Gwent yn cynnal rhaglen gweithredu cadarnhaol i roi cymorth i grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli digon. I ddysgu mwy, anfonwch e-bost at Brian a Clare - positive.action@gwent.police.uk neu ewch i dudalen gweithredu cadarnhaol ein gwefan.

Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl â sgiliau Cymraeg.