A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Adnoddau Dynol / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Adnoddau Dynol
Lleoliad:
Caerfyrddin, Gweithio o Gartref
Cyflog:
O gwmpas £40,000 i £44,000
Cyfeirnod:
20240429S4C
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
21-05-2024

PWRPAS Y SWYDD

Byddwch yn darparu gwasanaeth AD cyffredinol i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, rheoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.

Byddwch yn cefnogi'r Cyfarwyddwr wrth gynllunio strategaethau a chynlluniau pobl ac yn rheoli cysylltiadau a gweithwyr. Yn creu mentrau ymgysylltu â gweithwyr a pholisïau a gweithdrefnau pobl, byddwch yn defnyddio systemau gwybodaeth Adnoddau Dynol i gasglu data a mewnwelediadau pobl. Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli'r broses ddysgu a datblygu er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu anghenion y sefydliad a rheoli y broses recriwtio.

 

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

Byddwch yn:

  • Rheoli cysylltiadau gweithwyr, gan gynnwys datrys anghydfodau, disgyblaethau, cwynion, absenoldeb a diswyddo.
  • Gwneud penderfyniadau perthnasol gan ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau Adnoddau
  • Dynol ac o’r diwydiant.
  • Cynghori rheolwyr ar delerau ac amodau cyflogaeth a rhannu gwybodaeth am arfer gorau gyda nhw.
  • Datblygu polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol i wella perfformiad yn barhaus a lleihau anghydfodau.
  • Rheoli'r broses gwerthusiadau o safbwynt Adnoddau Dynol, gan alluogi pob cyflogai i gyfrannu.
  • Datblygu a gweithredu cynllun hyfforddi a datblygu yn seiliedig ar anghenion hyfforddi.
  • Rhoi cyngor llinell gyntaf ar bolisïau a gweithdrefnau i staff, gan gynnwys rheolwyr.
  • Prosesu holl weithgarwch y gyflogres yn fewnol (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, cyflogeion newydd, goramser, newidiadau cyflog, newid manylion personol, contractau temp) i alluogi darparwr cyflogres allanol i brosesu. Cadw cofnod cywir o newidiadau i'r gyflogres ac ymateb i unrhyw ymholiadau cyflogres.
  • Sicrhau bod data a manylion cyflogaeth yn cael eu cadw a’u diweddaru’n gywir, boed ar system gyfrifiadurol neu ar bapur.
  • Rhoi cyngor ar strategaethau recriwtio a dethol.
  • Cefnogi'r broses recriwtio – gall hyn gynnwys ysgrifennu disgrifiadau swydd a pharatoi cwestiynau cyfweliad a ffurflenni cais ac ati.
  • Creu a gweithredu proses ymsefydlu (‘induction’) newydd a chefnogi'r tîm gyda’r
  • sesiynau.
  • Creu a gweithredu cynllun lles.
  • Cefnogi'r broses Rheoli Talent.
  • Cefnogi'r aliniad rhwng strategaeth Adnoddau Dynol a nodau busnes.
  • Monitro ac adolygu polisïau a phrosesau Adnoddau Dynol yn barhaus a gweithredu newidiadau lle bo angen.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o weithredu prosiectau, gweithdrefnau a chanllawiau penodol i helpu i gysoni'r gweithlu â nodau strategol y sefydliad.
  • Cefnogi prosesau rheoli newid.
  • Cefnogi’r Swyddog Adnoddau Dynol.

 

Byddwch hefyd yn:

  • Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
  • Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
  • Cyfrannu at a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
  • Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
  • Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws- sefydliadol, sy'n datblygu gwasanaethau gwych i'n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.

 

Manyleb Person

 

Nodwedd

Hanfodol

Dymunol

Cymwysterau

Gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.

CIPD Lefel 5 neu gyfwerth neu’n gweithio

tuag ato.

Gradd Meistr neu Lefel 7 CIPD.

Profiad

Rheoli Adnoddau Dynol.

 

Cynghori rheolwyr ar bolisïau a

phrosesau AD a’r gyfraith cyflogaeth.

 

Rheoli systemau gwybodaeth personél cyfrifiadurol.

 

Cefnogi unigolion i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt.

Gweithio o fewn tîm yn llwyddiannus. Cyllidebol neu ddelio gyda ffigurau.

Gweithio ar hyfforddi a datblygu o fewn Adnoddau Dynol.

Gweithio gyda system Ciphr.

 

Prosesu neu gynorthwyo’r

gyflogres. Cynllunio strategol.

Prosesu neu gynorthwyo’r

gyflogres. Rheoli newid.

Rheoli hyfforddi a datblygu. Delio gydag Undebau.

Sgiliau a Gwybodaeth

Dealltwriaeth a phrofiad manwl o arferion Adnoddau Dynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a dealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth cyflogaeth.

Dealltwriaeth a sgiliau cynllunio a datblygu strategol.

Rheoli sefyllfaoedd anodd a gweithio gyda'r rhai sy'n gysylltiedig i’w datrys.

Sgiliau cryf yn TG ac ysgrifennu adroddiadau.

 

Sgiliau trefnu rhagorol, gan gynnwys y gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith

amrywiol â therfynau amser sy’n cystadlu

yn erbyn ei gilydd.

 

Sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a’r

Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Sgiliau rhyngbersonol cryf.

Y gallu i wneud penderfyniad effeithiol wrth weithredu'n brydlon o dan bwysau.

Sylw uchel i fanylder.
 

Y gallu i weithio mewn modd hyblyg a chadarnhaol.

 

Cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.

 

Gweithio’n gyfrinachol gan ddefnyddio

disgresiwn.

Sgiliau HTML, Excel, Pivot, PowerPoint.

Nodweddion Personol

Gallu cymell eich hun, gyda’r gallu i

weithio heb oruchwyliaeth.

 

Gallu i ddelio â sefyllfaoedd cyfrinachol a sensitif yn effeithiol datryswr problemau.

Gallu dangos empathi.

 

Sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu clir.

 

Dealltwriaeth ac ymrwymiad i Strategaeth a pholisi Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C.

Lefel uchel o uniondeb personol, a fynegir drwy ymddygiad.

 

Dangos Gwerthoedd ac Ymddygiadau sy'n cyd-fynd â gwerthoedd S4C.

Parodrwydd i weithio'n hyblyg.

 

 

 

 

Manylion eraill

Lleoliad:    Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym hefyd yn gweithredu polisi hybrid.

Cyflog:    O gwmpas £40,000 i £44,000, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.

Cytundeb:    Parhaol

Oriau gwaith:   35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf:    6 mis

Gwyliau:    Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:    Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r
 
Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Iau 16 Mai 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.