Swydd:
Swyddog Archif & Chyfleu Cynnwys
Lleoliad:
Caerdydd, Hybrid
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Parhaol
( Llawn Amser 35.75 awr (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa) )
Swyddog Archif & Chyfleu Cynnwys
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad ac yn ystod adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu, ac wrth i ni weithredu strategaeth 2030. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n Tîm.
Trosolwg y Swydd
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy'n mwynhau gweithio gyda systemau cynnwys digidol, archifau, rheoli gwybodaeth a gwelliant parhaus mewn amgylchedd cyfryngol cyflym. Bydd eich cyfraniad yn hanfodol wrth i S4C barhau i ddatblygu fel cyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan, ac wrth i ni ddatgloi gwerth ein casgliad archif helaeth. Fel Swyddog Archif a Chyfleu Cynnwys byddwch yn angerddol am gyfryngau digidol, archif a systemau cynnwys. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i weithio wrth galon strategaeth Digidol yn Gyntaf S4C, gan reoli cynnwys ar draws amrwy o lwyfannau a helpu illunio dyfodol un o archifau cyfryngau pwysicaf y Deyrnas Unedig. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyfleu a rheoli'r cynnwys a gomisiynir gan S4C, ynghyd â'r cynnwys sydd yn archif helaeth y sianel.
Wrth i S4C barhau â'i thrawsnewidiad yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan, mae systemau digidol, llif gwaith a rheoli cynnwys wrth wraidd popeth a wnawn o fewn y Tîm Archif a Chyfleu Cynnwys.
Byddwch yn adrodd i’r Arweinydd Archif a Chyfleu Cynnwys o fewn Adran Gweithrediadau Cynnwys S4C.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Fel Swyddog Archif a Chyfleu Cynnwys, byddwch yn:
- Chwarae rhan allweddol wrth reoli, cyflenwi a gwneud y mwyaf o werth cynnwys ar draws llwyfannau S4C, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer digidol a systemau rheoli asedau cyfryngau.
- Helpu i lunio a gwella prosesau cyfleu cynnwys digidol ac yn cefnogi rheolaeth un o archifau cyfryngau mwyaf arwyddocaol Cymru.
- Cyfrannu at ddatblygiad parhaus llif gwaith modern ac effeithlon sy'n sicrhau bod cynnwys yn cyrraedd cynulleidfaoedd yn gywir ac yn effeithiol.
- Defnyddio systemau Rheoli Asedau Cyfryngau (MAM) safonol y diwydiant a systemau cynnwys digidol i reoli, trefnu, chwilio, adalw a dosbarthu cynnwys yn effeithlon.
- Chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cyfleu cynnwys ar draws llwyfannau digidol a darlledu S4C. Mae’r Tîm Archif a Chyfleu Cynnwys yn sicrhau bod cynnwys yn cyrraedd yn brydlon ac yn unol â gofynion technegol S4C, gan sicrhau hefyd fod y cynnwys yn cael eu prosesu a’u cyhoeddi ar y llwyfan cyhoeddi priodol.
- Gweithio gyda metadata, cofnodion archifol ac asedau digidol er mwyn sicrhau bod cynnwys yn hawdd i’w ddarganfod, wedi ei gatalogio'n gywir ac yn hygyrch.
- Helpu optimeiddio a gwella llifoedd gwaith digidol, gan gefnogi datblygiad parhaus systemau cyfleu cynnwys S4C.
- Ymchwilio a datrys problemau cyfleu cynnwys ac ansawdd drwy ddefnyddio systemau digidol ac offer adrodd.
- Cydweithio â chydweithwyr ar draws S4C, BBC Cymru a'r sector cynhyrchu annibynnol i sicrhau bod cynnwys yn cael ei gyfleu yn gywir ac yn brydlon.
- Cynnal safonau uchel o ran rheoli asedau digidol, llywodraethu cynnwys a chywirdeb gwybodaeth.
- Cefnogi mentrau digideiddio archifau, ailddefnyddio cynnwys a gwneud y mwyaf o werth yr archif.
- Datblygu arbenigedd mewn rheoli hawliau digidol, trwyddedu a phrosesau clirio cynnwys archifol.
- Cadw'n gyfredol gyda datblygiadau mewn technoleg cyfryngau, cyhoeddi digidol ac arfer gorau ym maes cyfleu cynnwys.
- Nodi a chydlynu cywiriadau ar gyfer unrhyw faterion ansawdd (llun a sain) a nodir yn ystod prosesau sicrwydd ansawdd neu adolygu, gan leihau'r effaith ar amserlenni cyhoeddi.
- Cydweithio ar draws timau yn S4C a gyda phartneriaid allanol i sicrhau bod holl elfennau'r cynnwys yn gywir ac ar gael mewn da bryd.
- Sicrhau bod gwybodaeth gywir ar gael i adrannau perthnasol yn S4C a BBC Cymru ar gyfer cyhoeddi cynnwys ar draws llwyfannau, gan gynnwys manylion cyswllt a chynnwys wrth gefn lle bo'n briodol.
- Chwilio am gynnwys archifol, ei ddewis a'i drwyddedu, gan gefnogi ei ddefnydd. Bydd hyn weithiau'n cynnwys cofnodi cynnwys rhaglenni a blaenoriaethu ceisiadau yn ystod cyfnodau prysur.
- Datblygu a chynnal dealltwriaeth gadarn o hawliau cynnwys, gan sicrhau bod pob defnydd yn cydymffurfio â thelerau trwyddedu.
Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:
Ydych yn rhywun sydd:
- Yn mwynhau gweithio gyda systemau digidol, cronfeydd data a llwyfannau rheoli cynnwys.
- Yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg i drefnu, rheoli ac adalw gwybodaeth.
- Yn drefnus, yn drylwyr ac yn gydwybodol.
- Yn meddu ar sgiliau dadansoddol a datrys problemau cryf.
- Â phrofiad neu ddiddordeb mewn gweithio ym maes archifau ac ymchwil.
- Yn gyfforddus yn dysgu systemau newydd ac yn addasu i lif gwaith digidol sy'n newid.
- Â diddordeb mewn cyhoeddi digidol, cyflenwi cynnwys, technoleg cyfryngau neu reolaeth archifol.
- Yn mwynhau nodi cyfleoedd i wella prosesau drwy dechnoleg ac arloesedd.
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu effeithiol gyda gwahanol randdeiliaid.
Byddwch hefyd yn llwyddo os oes gennych y sgiliau a'r diddordeb i ddatblygu'n broffesiynol drwy:
- Ddeall llif gwaith cynhyrchu a chyfleu cynnwys.
- Rheoli, ymchwilio a sicrhau'r defnydd gorau o ddeunydd archifol.
- Deall polisïau rheoli a chadw cofnodion, safonau archifol ac arfer gorau.
- Bod yn ymwybodol o reolau darlledu a gofynion cydymffurfio.
- Deall prosesau clirio cynnwys archifol, gan gynnwys hawlfraint, hawliau trwyddedu, eiddo deallusol a chyfyngiadau olrhain hawliau.
- Defnyddio sgiliau trefnu cryf wrth reoli cyfrolau mawr o gynnwys a blaenoriaethu ceisiadau.
Yn ystod eich tri mis cyntaf bydd disgwyl i chi:
- Ddefnyddio systemau rheoli asedau cyfryngau S4C yn effeithlon.
- Cydweithio efo’r sector annibynnol i sicrhau fod Cynyrchiadau yn cael eu cyfleu yn amserol ac yn cael eu prosesi a’u cyhoeddi ar y llwyfan priodol.
- Ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol mewn modd proffesiynol ac amserol.
- Medru chwilio am gynnwys archifol, ei ddewis a'i drwyddedu.
- Gweithio gyda chydweithwyr i gefnogi gwaith yr adran.
- Cyfathrebu'n glir â rhanddeiliaid ac adrannau mewnol.
Byddwch hefyd yn:
- Ymwybodol o strategaeth S4C a chymryd cyfrifoldeb personol am ddilyn polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad.
- Cyfrannu'n gadarnhaol at ddiwylliant y sefydliad a darpariaeth strategaeth S4C.
- Cyfrannu at a chefnogi defnydd y Gymraeg yn y gweithle.
- Cydweithio gyda'ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
- Gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol a thraws-sefydliadol sy'n datblygu gwasanaethau rhagorol ar gyfer ein cynulleidfaoedd.
Beth fyddwch chi'n ei gael?
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
- Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ei gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus lle’n briodol.
- Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector creadigol a chyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau a rhagolwg rhaglenni, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
- Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
- Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
- 26 diwrnod o wyliau yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â pobl@s4c.cymru
Manyleb Personol
|
Nodwedd
|
Hanfodol
|
Dymunol
|
|
Cymraeg
|
Sgiliau Cymraeg cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig.
|
|
|
Cymwysterau
|
3 Lefel A (neu gyfatebol)
|
Gradd neu profiad gyfwerth
|
|
Profiad
|
Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid a rheoli disgwyliadau.
Profiad o ddefnyddio systemau digidol/cyfrifiadurol i drefnu, storio ac adfer gwybodaeth.
Profiad o weithio gyda systemau archifo, catalogio a chynnal cronfaoedd data.
Profiad o ymchwilio mewn swydd flaenorol neu bresennol.
Profiad o gyd-weithio ac adeiladu/cynnal perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid yn fewnol ac allanol.
|
Profiad o ddefnyddio systemau Rheoli Asedau Cyfryngau (MAM) neu Rheoli Asedau Digidol (DAM).
Profiad o ymwneud a newid / diwygio systemau.
Profiad o weithio gyda chyfleu cynnwys digidol ar gyfer amryw o blatfformau.
Profiad o weithio gyda archif.
|
|
Sgiliau a Gwybodaeth
|
Sgiliau digidol/cyfrifiadurol effeithiol.
Sgiliau trefnu o’r radd uchaf a meddylfryd gwelliant parhaus.
Sgiliau gweinyddol, a sylw i fanylion effeithiol.
Sgiliau cyfathrebu effeithiol, gyda’r gallu i gyfathrebu gydag ystod o gydweithwyr a rhanddeiliaid ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gallu i baratoi, cyflwyno diweddariadau, adroddiadau a chynlluniau gweithredu.
Gallu i weithio’n rhagweithiol a chadarnhaol gydag eraill; cydweithio effeithiol.
Gallu i addasu’n gyflym i dirwedd busnes sy’n newid yn gyflym.
Gallu i greu perthnasoedd adeiladol.
|
Dealltwriaeth o systemau cynhyrchu, cyhoeddi cynnwys ac elfennau technegol/digidol perthnasol.
Ymwybyddiaeth o’r sector darlledu neu’r diwydiannau creadigol.
Ymwybyddiaeth o gyhoeddi aml-blatfform.
Sgiliau effeithiol a gwybodus o’r diwydiant Archifo.
|
|
Nodweddion Personol
|
Dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i strategaeth a pholisïau Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C.
Lefel uchel o uniondeb personol, a ddangosir drwy ymddygiad proffesiynol a dibynadwy.
Y gallu i arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau S4C yn gyson yn y gweithle.
Parodrwydd i weithio’n hyblyg, gan ymateb i anghenion y rôl a’r sefydliad.
|
|
Manylion eraill
Lleoliad: Sgwar Canolog, Caerdydd (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa).
Cyflog: £30,000.00 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 5 o’r gloch y prynhawn ar ddydd Mawrth 13 Hydref 2026 at Pobl@s4c.cymru.
Dyddiad Cyfweliadau: 21 Hydref 2026
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Defnyddio AI
Os ydych chi’n dewis defnyddio AI neu offer tebyg, gwnewch yn siŵr bod eich ymatebion yn fanwl gywir, yn onest ac yn adlewyrchu’ch profiad a’ch geiriau eich hun.
Yn ystod y cyfweliad, ni chaniateir defnyddio AI nac offer recordio, oni bai bod hynny wedi’i gytuno ymlaen llaw ar sail hygyrchedd. Gall unrhyw dystiolaeth o ddefnydd heb ganiatâd arwain at dynnu’ch cais yn ôl.
Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Ceisio Nawr
Lawrlwytho dogfennau
’Nôl at y swyddi gwag