Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Lleoliad: Cymru Gyfan
Ymrwymiad amser: Disgwylir ichi ymrwymo i un diwrnod y mis o leiaf, ac ymuno hefyd â chyfarfodydd y Bwrdd.
Hyd y swydd: Penodiad cychwynnol o bedair blynedd
Tâl: Bydd yr Aelod Bwrdd yn cael tâl o £198 y diwrnod. Bydd gan Dysgu gynllun i ad-dalu costau teithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill yr eir iddynt wrth gyflawni'r rôl. Ni thelir cyfraniad pensiwn. Ni fydd yr Aelodau yn cael eu cyflogi gan Dysgu na chan Weinidogion Cymru ac, felly, ni fydd ganddynt hawliau 'cyflogai' o dan ddeddfwriaeth cyflogaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod ag ystod o swyddogaethau presennol ynghyd i greu corff hyd braich, Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru (Dysgu), sydd wedi bod yn weithredol ers Medi 2025. Bydd Dysgu yn arwain y gwaith o ddarparu dysgu proffesiynol, sy'n gyson yn genedlaethol, i gefnogi ymarferwyr, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, athrawon, uwch arweinwyr a phenaethiaid mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ar hyd eu llwybrau gyrfa. Bydd yn darparu cymorth cenedlaethol, gan gynnwys arweiniad a chyfarwyddyd, i gynghorwyr gwella ysgolion a gweithwyr ieuenctid. Bydd y rhaglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol yn adlewyrchu blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a llesiant, ochr yn ochr â rhaglenni newid hirdymor gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Bydd disgwyl i Fwrdd Dysgu herio, cefnogi, a chynnig persbectif allanol a phrofiad. Y nod yw cael Bwrdd sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o sgiliau perthnasol a phrofiadau bywyd fel y gall yr Aelodau, gyda’i gilydd, ffurfio barn ar faterion, gan ysgogi gwelliant parhaus o fewn y sefydliad er lles ei gwsmeriaid a chymdeithas yn ehangach.
Y Meini Prawf Hanfodol
Mae'n bolisi gan Llywodraeth Cymru i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal i bob agwedd ar ei busnes gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Mae ceisiadau’n cael eu croesawu a’u hannog gan bob grŵp ac rydym yn sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a bydd penodiadau'n cael eu gwneud yn ôl teilyngdod.
Iaith:
Dysgu – Addysg Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol Cymru - Penodi Aelodau - Cymraeg yn Hanfodol –
Dysgu – Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru - Penodi Aelodau -Cymraeg dymunol -
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 22 Rhagfyr 2025 (16:00).