A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynorthwyydd Cyfrifon Taladwy / Swyddle
Swydd:
Cynorthwyydd Cyfrifon Taladwy
Lleoliad:
Aberystwyth, Y Drenewydd
Cyflog:
£26,531 - £27,062 pro rata
Cyfeirnod:
Barcud-APA
Math o Swydd:
Dros Dro ( dros dro am 6 mis )
Cleient:
Barcud
Dyddiad Cau:
10-09-2026

Yn atebol i’r canlynol: Uwch-swyddog Cyllid 

Diben cyffredinol y swydd:  

Darparu cymorth gweinyddol i’r Tîm Cyllid drwy sicrhau bod anfonebau cyflenwyr yn cael eu prosesu’n gywir ac yn effeithlon; cynorthwyo gyda thaliadau cyflenwyr; a chynnal cofnodion cywir yn y cyfriflyfr prynu, gan sicrhau ar yr un pryd bod gwasanaeth cwsmer ardderchog yn cael ei ddarparu i randdeiliaid mewnol ac allanol.

 

Cyfrifoldebau Allweddol – 

Cyllid:

  • Darparu cymorth gweinyddol i’r swyddogaeth Cyfrifon Taladwy er mwyn sicrhau bod anfonebau’n cael eu prosesu’n gywir ac yn unol â’r amserlenni a gytunwyd.
  • Derbyn, sganio a phrosesu anfonebau cyflenwyr a nodiadau credyd ar y system rheolaeth ariannol.
  • Paru anfonebau ag archebion prynu a dogfennau atodol, gan gyfeirio unrhyw anghysondebau at yr Uwch-swyddog Cyllid os yn briodol.
  • Codio anfonebau’n unol â’r gweithdrefnau a sefydlwyd.
  • Ymateb i ymholiadau arferol gan gyflenwyr a gan gydweithwyr mewnol dros y ffôn a thrwy ebost, gan uwchgyfeirio materion mwy cymhleth os oes angen.
  • Cynorthwyo i baratoi cysoniadau’n ymwneud â chyfriflenni cyflenwyr ac adnabod unrhyw eitemau sydd heb eu talu.
  • Cynorthwyo i baratoi rhediad o daliadau cyflenwyr er mwyn i’r Uwch-swyddog Cyllid eu hadolygu a’u hawdurdodi.
  • Cynnal cofnodion cywir am gyflenwyr a diweddaru gwybodaeth am gyflenwyr gan ddilyn gweithdrefnau a gymeradwywyd.
  • Sicrhau bod cofnodion ariannol yn cael eu cynnal yn gywir gan barchu cyfrinachedd.
  • Cydymffurfio â Rheoliadau Ariannol, polisïau a gweithdrefnau’r Grŵp bob amser.
  • Cynorthwyo gyda gweithgareddau’r cyfriflyfr prynu ar ddiwedd y mis, yn unol â’r cyfarwyddyd a geir.
  • Cynorthwyo gyda cheisiadau’n ymwneud ag archwilio, drwy ddarparu dogfennau a gwybodaeth pan fo angen.
  • Cyflawni dyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn ymwneud â chyllid er mwyn cynorthwyo’r Tîm Cyllid.