Swydd:
Cynorthwyydd Cyfrifon Taladwy
Lleoliad:
Aberystwyth, Y Drenewydd
Cyflog:
£26,531 - £27,062 pro rata
Math o Swydd:
Dros Dro
( dros dro am 6 mis )
Yn atebol i’r canlynol: Uwch-swyddog Cyllid
Diben cyffredinol y swydd:
Darparu cymorth gweinyddol i’r Tîm Cyllid drwy sicrhau bod anfonebau cyflenwyr yn cael eu prosesu’n gywir ac yn effeithlon; cynorthwyo gyda thaliadau cyflenwyr; a chynnal cofnodion cywir yn y cyfriflyfr prynu, gan sicrhau ar yr un pryd bod gwasanaeth cwsmer ardderchog yn cael ei ddarparu i randdeiliaid mewnol ac allanol.
Cyfrifoldebau Allweddol –
Cyllid:
- Darparu cymorth gweinyddol i’r swyddogaeth Cyfrifon Taladwy er mwyn sicrhau bod anfonebau’n cael eu prosesu’n gywir ac yn unol â’r amserlenni a gytunwyd.
- Derbyn, sganio a phrosesu anfonebau cyflenwyr a nodiadau credyd ar y system rheolaeth ariannol.
- Paru anfonebau ag archebion prynu a dogfennau atodol, gan gyfeirio unrhyw anghysondebau at yr Uwch-swyddog Cyllid os yn briodol.
- Codio anfonebau’n unol â’r gweithdrefnau a sefydlwyd.
- Ymateb i ymholiadau arferol gan gyflenwyr a gan gydweithwyr mewnol dros y ffôn a thrwy ebost, gan uwchgyfeirio materion mwy cymhleth os oes angen.
- Cynorthwyo i baratoi cysoniadau’n ymwneud â chyfriflenni cyflenwyr ac adnabod unrhyw eitemau sydd heb eu talu.
- Cynorthwyo i baratoi rhediad o daliadau cyflenwyr er mwyn i’r Uwch-swyddog Cyllid eu hadolygu a’u hawdurdodi.
- Cynnal cofnodion cywir am gyflenwyr a diweddaru gwybodaeth am gyflenwyr gan ddilyn gweithdrefnau a gymeradwywyd.
- Sicrhau bod cofnodion ariannol yn cael eu cynnal yn gywir gan barchu cyfrinachedd.
- Cydymffurfio â Rheoliadau Ariannol, polisïau a gweithdrefnau’r Grŵp bob amser.
- Cynorthwyo gyda gweithgareddau’r cyfriflyfr prynu ar ddiwedd y mis, yn unol â’r cyfarwyddyd a geir.
- Cynorthwyo gyda cheisiadau’n ymwneud ag archwilio, drwy ddarparu dogfennau a gwybodaeth pan fo angen.
- Cyflawni dyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn ymwneud â chyllid er mwyn cynorthwyo’r Tîm Cyllid.