A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Materion Cyhoeddus a'r Cyfryngau (Cymru) / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Materion Cyhoeddus a'r Cyfryngau (Cymru)
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£44,810
Cyfeirnod:
FSBRMCCC261015
Sgiliau Cymraeg:
Dymunol
Math o Swydd:
Parhaol ( Llawn Amser )
Cleient:
Federation of Small Businesses (FSB)
Dyddiad Cau:
28-10-2026

Rheolwr Materion Cyhoeddus a'r Cyfryngau (Cymru)    
Caerdydd 
£44,810.00 ynghyd â phecyn buddion cystadleuol

 

Rydym yn chwilio am Reolwr Materion Cyhoeddus a'r Cyfryngau profiadol i ymuno â'n tîm yng Nghymru.
Gan adrodd i Bennaeth Cymru, byddwch yn helpu i wneud y mwyaf o ddylanwad FfBB a gwella ei enw da trwy hyrwyddo ein hamcanion polisi yn effeithiol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach ledled Cymru. Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, cyfathrebu a lobïo i gryfhau safle FfBB fel llais awdurdodol busnesau bach yng Nghymru.

Ffederasiwn y Busnesau Bach (FfBB) yw prif lais busnesau bach a'r hunangyflogedig ledled y DU. Ers 1974, rydym wedi cynorthwyo pobl i sefydlu, rhedeg a thyfu eu busnesau eu hunain trwy fuddion sy'n arwain y farchnad, cefnogaeth leol, arbenigedd ariannol, cyfleoedd rhwydweithio a mwy.
Rydym hefyd yn ymgyrchydd busnes blaenllaw, gan weithio gyda llywodraethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyflawni newid ystyrlon ar y materion sydd bwysicaf i fusnesau bach. Mae ein timau arbenigol yng Nghaerdydd, Glasgow a Belfast yn gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig, swyddogion a rhanddeiliaid allweddol ar draws y gwledydd datganoledig.


Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Mae hon yn rôl ddiddorol ac amrywiol. Fel aelod allweddol o dîm FfBB Cymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud y canlynol:
Fel aelod allweddol o dîm FfBB Cymru, byddwch yn:

•    Rhedeg swyddfa’r wasg yng Nghymru, ymateb i ymholiadau’r cyfryngau, ysgrifennu datganiadau i’r wasg ac erthyglau, yn ogystal â nodi cyfleoedd yn y wasg a’r cyfryngau darlledu a digidol yn rhagweithiol.
•    Gweithredu fel llefarydd awdurdodol yn y cyfryngau Cymreig, a lle bo'n briodol, cyfryngau'r DU.
•    Gweithio gyda Phennaeth Cymru i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu, cyfryngau a materion cyhoeddus sy'n cefnogi Cynllun Busnes Cymru FfBB.
•    Datblygu ymgyrchoedd sy'n canolbwyntio ar Gymru a chydlynu cyfraniad FfBB Cymru at ymgyrchoedd ledled y DU.
•    Hyrwyddo blaenoriaethau polisi FfBB Cymru i wleidyddion, gweinidogion, gweision sifil, cyrff cynrychioli a rhanddeiliaid dylanwadol eraill.
•    Cydlynu cyfathrebu â chynrychiolwyr gwleidyddol Cymru, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, Aelodau’r Senedd ac ASau.
•    Cynrychioli FfBB ar grwpiau, cyrff a fforymau allanol.
•    Trefnu digwyddiadau polisi a materion cyhoeddus ledled Cymru.
•    Cynnal a datblygu cynnwys gwefan a phresenoldeb FfBB Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.
•    Monitro sylw yn y cyfryngau a chynhyrchu copi ac adroddiadau ar gyfer cyhoeddiadau mewnol ac allanol.
•    Gweithio'n agos â chydweithwyr yng Nghymru, San Steffan, yr Alban a Gogledd Iwerddon i wneud y mwyaf o effaith gwaith cyfathrebu a pholisi FfBB.

Am bwy rydyn ni'n chwilio?

Bydd gennych chi brofiad o’r canlynol:
•    Ysgrifennu datganiadau i'r wasg, erthyglau a chynnwys ar gyfer papurau newydd, cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddiadau mewnol.
•    Rheoli perthnasoedd â gwleidyddion a ffigurau cyhoeddus eraill.
•    Trefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith heriol
•    Gweithio gyda gwirfoddolwyr.
•    Cynllunio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennu cynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol.
•    Cynhyrchu gwaith cywir i derfynau amser tynn a pherfformio'n effeithiol o dan bwysau.
•    Cyfathrebu'n glir ac yn hyderus, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys mewn pwyllgorau a chyfarfodydd


Bydd gennych chi hefyd ddealltwriaeth gref o brosesau gwleidyddol yng Nghymru, yn enwedig y Senedd, ochr-yn-ochr â gwybodaeth am Lywodraeth a Senedd y DU. Byddai gwybodaeth am faterion sy'n effeithio ar fusnesau bach a'r hunangyflogedig yn fanteisiol.

Mae FfBB wedi ymrwymo i helpu busnesau bach i oroesi trwy'r cyfnod anodd hwn, ac rydym yn gwerthfawrogi ein staff ddigon i ddarparu cyfraddau cyflog a buddion cystadleuol iawn, yn ogystal â chymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Credwn fod y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig, a byddwn yn eich darparu â’r holl offer, sgiliau a chymorth sydd eu hangen arnoch i helpu ein haelodau bob dydd, a'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau trwy waith tîm a meithrin perthnasoedd. Credwn mai amrywioldeb yw'r allwedd i lwyddiant, ac rydym yn annog pobl o bob cefndir i ymuno â ni. Mae ein hamgylchedd cynhwysol yn caniatáu i'n holl weithwyr deimlo bod croeso iddynt yn y gwaith.

Yn ogystal â gyrfa foddhaol gyda FfBB, byddwch hefyd yn elwa o’r canlynol:
•    Polisi gweithio o gartref ad hoc
•    26 diwrnod o wyliau'r flwyddyn ynghyd â gwyliau banc gyda'r opsiwn i brynu 3 diwrnod gyda'ch Pot Hyblyg Blynyddol*.
•    Pot Hyblyg Blynyddol* i'w wario ar fuddion gan gynnwys pensiwn ychwanegol, gwyliau ychwanegol, yswiriant salwch difrifol ychwanegol, yswiriant bywyd ychwanegol, cynllun beicio i'r gwaith a gostyngiad yng nghost aelodaeth o’r gampfa. 
•    Cynllun arian iechyd* (Mynediad i hawlio’n ôl nifer o fuddion, gan gynnwys tuag at driniaeth ddeintyddol, optegol, trin traed, ffisiotherapi, cwnsela, iechyd a llesiant).
•    Yswiriant salwch difrifol a diogelu incwm*.
•    Gwell Tâl Mamolaeth a Thadolaeth.
•    Mynediad at raglen cymorth i weithwyr a chymorth cyntaf iechyd meddwl.
•    Pensiwn Personol y Grŵp (GPP).

*Yn berthnasol ar ôl cwblhau'r cyfnod prawf ac yn amodol ar delerau

Sut i wneud cais

Rhaid derbyn pob cais erbyn 28ain Hydref 2026. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu cadw ar ffeil am hyd at 6 mis a'u hadolygu os yw'r rownd gyntaf o ymgeiswyr yn aflwyddiannus.


I wneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol trwy e-bost yn manylu ar sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol i HR.Recruitment@fsb.org.uk.  


Gwybodaeth ychwanegol 
Rhaid i bob ymgeisydd allu darparu yn ystod y cyfweliad eu tystysgrifau addysg uchaf fel y'u rhestrir ar eu CV a phrawf o'u cymhwysedd i weithio yn y DU.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae FfBB wedi ymrwymo i drin pob gweithiwr cyfredol a darpar weithiwr yn gyfartal, ac nid yw'n goddef camwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, na phriodas a phartneriaeth sifil. Credwn fod achos cryf dros yr agenda Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant, a’r nod yw bod â gweithle amrywiol a chynhwysol, lle gall pob gweithiwr ddod â'u hunaniaeth gyfan i'r gwaith. Rydym yn annog yn gryf ymgeiswyr cymwys o ystod o gefndiroedd i wneud cais ac ymuno â FfBB. Dylai ymgeiswyr ag anabledd sydd angen addasiadau rhesymol gysylltu â'r adran Adnoddau Dynol yn hr.recruitment@fsb.org.uk.

Cynghorir ymgeiswyr i wneud cais yn gynnar. Rydym yn cadw'r hawl i gau swydd wag cyn y dyddiad cau os derbynnir nifer fawr o geisiadau. Os byddwch yn llwyddiannus ac wedi’ch cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost.