Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rheolwr Brand
Sylwch: dim ond ar gael i ymgeiswyr sy’n cael eu cyflogi gan Trafnidiaeth Cymru y mae’r swydd hon. Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd hon, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried. Os ydych wedi gwneud cais am y rôl hon yn ystod y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch â gwneud cais eto gan na fydd eich cais, yn anffodus, yn cael ei ystyried.
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio Rheolwr Brand i fod yn warcheidwad ac yn hyrwyddwr brand Trafnidiaeth Cymru (TrC) / rhwydwaith T a’n profiad digidol i gwsmeriaid (Prosiect UNO), gan reoli ei ddatblygiad a’i weithrediad yn ogystal â chynnal ei onestrwydd a’i ddilysrwydd. Gyda llygad craff am fanylion, byddwch yn sicrhau cymhwyso cyson, cywir ac yn ddwyieithog o’r brand yn unol â safonau brand TrC.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Profiad a gwybodaeth amlwg o strategaeth, rheolaeth a datblygiad brand.
Dealltwriaeth ragorol o bwysigrwydd strategol brand sefydliad.
Gwybodaeth amlwg o hunaniaeth / dyluniad brand, tôn llais a’i weithrediad ar draws amrywiaeth eang o bwyntiau cyswllt a sianeli cyfathrebu.
Sylw manwl i fanylion a'ch ymrwymiad i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau brand.
Profiad amlwg o gynllunio ymlaen, creu a gweithredu cynlluniau, ynghyd â’r gallu i reoli sawl prosiect erbyn y dyddiad cau mewn amgylchedd cymhleth a chyflym.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.