Ni yw eich Undeb Myfyrwyr, caiff ei rhedeg gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr, ac rydym yma i’ch cefnogi, i’ch cynrychioli, a’ch dathlu drwy gydol eich taith yn y brifysgol. Meddyliwch amdanom fel angor i’ch bywyd myfyriwr. Rydym yma i wrando ar eich llais, sefyll dros yr hyn sydd yn bwysig i chi, a sicrhau fod eich profiad ym Mangor yn un gwobrwyol, positif a llawn hwyl. Mae cychwyn yn y brifysgol yn gam mawr, ac rydym ni yma i fod o gymorth i chi wneud y gorau ohono o’r cychwyn un. P’un a’i eich bod yn ymuno â ni ym mis Medi neu yn cynllunio eich dyfodol ym Mangor, Undeb Bangor fydd eich Undeb Myfyrwyr, yma i’ch cynrycholi, i’ch cefnogi, ac i fod o gymorth i siapio’ch profiad fel myfyriwr.
Rydym yn cefnogi dros 10,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor drwy eu cynrychioli, cynnal digwyddiadau, cymdeithasau, chwaraeon, gwirfoddoli, a chynnig cyngor academaidd. Fel Undeb Myfyrwyr annibynol ac elusen gofrestredig, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol er mwyn sicrhau fod eich llais yn glywedadwy. O arwain ymgyrchoedd i gynrychioli eich diddordebau academaidd, i ddarparu cefnogaeth a chreu cyfleoedd er mwyn eich galluogi i gymryd rhan, mae Undeb Bangor wrth galon bywyd myfyrwyr.
Rydym hefyd yn falch iawn o’n dwyieithrwydd a’n cynhwysiant. Mae UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yn rhan-annatod o Undeb Bangor ac yn gweithio i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i chymuned ar y campws. P’un a’i eich bod yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn siaradwr newydd, neu â diddordeb yn y diwylliant Cymraeg, mae mwy na croeso i chi gymryd rhan.
Yma ym Mangor, mae ganddom fwy o weithgareddau a chwaraeon na allwch fyth ddychmygu, mae’n ffordd berffaith o greu ffrindiau newydd, cwrdd â phobol newydd, a thrio rhywbeth newydd sbon.
Cynhelir ein digwyddiad croeso mwyaf y flwyddyn, Serendipity yn ystod yr Wythnos Groeso, yng Nghanolfan Brailsford. Yno fe ddewch o hyd i dros 150 o stondinau a gaiff eu rhedeg gan grwpiau o fyfyrwyr, gwasanaethau prifysgol, a busnesau lleol, pob un yn awyddus i fod o gymorth i sicrhau eich bod yn gael y gorau o’ch amser ym Mangor. Paratowch i dderbyn nifer o eitemau am ddim, cyfleoedd cyffrous, a llawer o wybodaeth ar sut i gymryd rhan. Mae’n gyfle perffaith i archwilio eich opsiynau, cwrdd â phobol newydd, a chamu mewn i fywyd myfyriwr!