A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cyfieithu a Chymorth Iaith Gymraeg / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cyfieithu a Chymorth Iaith Gymraeg
Lleoliad:
Casnewydd
Cyflog:
34,587
Cyfeirnod:
ONS450156
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) | Office for National Statistics (ONS)
Dyddiad Cau:
12-03-2026

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol mwyaf y DU, gan gwmpasu amrywiaeth o bynciau economaidd, cymdeithasol a demograffig allweddol. Mae hyn yn cynnwys mesur newidiadau yng ngwerth economi'r DU, amcangyfrif maint, dosbarthiad daearyddol a nodweddion y boblogaeth, a darparu dangosyddion mewn perthynas â chwyddiant prisiau, cyflogaeth, enillion, troseddau a mudo. 

Bydd eich arbenigedd yn sicrhau bod gan gymunedau Cymraeg eu hiaith fynediad cyfartal at y wybodaeth hanfodol hon, o ystadegau cynnyrch domestig gros a data chwyddiant i ganlyniadau'r cyfrifiad ac ystadegau troseddau. Gan weithio yn ein his-adran Safonau Ystadegol fel rhan o dîm Polisi a Chydlynu Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, byddwch yn cefnogi'r broses o gyflawni ein Cynllun Iaith Gymraeg drwy ddarparu gwasanaethau cyfieithu o ansawdd uchel ar draws holl allbynnau'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys cyfieithu cyhoeddiadau, arolygon, cynnwys gwe, postiadau cyfryngau cymdeithasol, a deunyddiau ymgyrchoedd, gan sicrhau ansawdd gwaith gan ein darparwr cyfieithu allanol, Prysg, hefyd.

Swydd ddisgrifiad

Mae'r Swyddog Cyfieithu a Chymorth Iaith Gymraeg yn gweithio yn yr is-adran Safonau Ystadegol, rhan o Swyddfa'r Ystadegydd Cenedlaethol sydd newydd ei ffurfio, gan gefnogi tîm Polisi a Chydlynu Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae'r rôl hon yn hanfodol i sicrhau bod y SYG yn cyflawni ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, gan sicrhau bod ein hystadegau economaidd, cymdeithasol a demograffig hanfodol yn hygyrch i gymunedau sy'n siarad Cymraeg.

Byddwch yn allweddol wrth weithredu ein Cynllun Iaith Gymraeg, sy'n sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal ar draws holl gyfathrebiadau'r sefydliad, o gyhoeddiadau ystadegol cymhleth a deunyddiau arolwg i gynnwys digidol ac ymgyrchoedd ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn amlinellu'r egwyddorion a'r ymrwymiadau sy'n ein tywys wrth ddarparu gwasanaethau a chynnal busnes cyhoeddus yn ddwyieithog lle bynnag y bo'n berthnasol ac yn briodol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal, a bod ein cyfathrebiadau, ein polisïau a'n rhyngweithiadau â chwsmeriaid yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn gyfrifol am gefnogi'r broses o gyflawni Cynllun Iaith Gymraeg y SYG drwy ddarparu cyfieithiadau o ansawdd uchel o ddogfennau a chynnwys rhwng y Saesneg a'r Gymraeg o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyhoeddiadau, arolygon, gohebiaeth, adroddiadau, cynnwys gwe, postiadau cyfryngau cymdeithasol, deunyddiau ymgyrchu, swyddi gwag, ac unrhyw adnoddau eraill a fwriadwyd ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru ar draws pob rhan o'r sefydliad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Tîm y Gymraeg i sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio'n llawn â'i rwymedigaethau o ran y Gymraeg ac yn hyrwyddo dwyieithrwydd yn weithredol ar draws pob maes gwaith. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prawfddarllen a sicrhau ansawdd yr holl gynnwys Cymraeg a gyfieithir gan Prysg, ein darparwr cyfieithu allanol, yn ogystal â gwaith a wneir gan gydweithwyr o fewn y sefydliad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn darparu cefnogaeth i Dîm Iaith Gymraeg y SYG a Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg wrth gyflawni ein Cynllun yn ehangach. 

Cyfrifoldebau

  • Rheoli ceisiadau cyfieithu drwy gydlynu'r broses o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys amserlennu a blaenoriaethu tasgau i fodloni terfynau amser y cytunwyd arnynt.
  • Cysylltu â thimau mewnol i egluro gofynion a datrys ymholiadau, gan gynnal cofnodion clir o geisiadau ac amseroedd cyflawni.
  • Cysylltu â'n darparwr cyfieithu allanol pan fo angen, gan sicrhau cyfathrebu clir o ran gofynion, terfynau amser a disgwyliadau ansawdd.
  • Datblygu a diweddaru templedi dwyieithog gan gynnwys dogfennau, cyflwyniadau a chynnwys digidol i sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth â Chynllun Iaith Gymraeg y sefydliad.
  • Defnyddio meddalwedd cyfieithu ac offer gwirio gramadeg i gynhyrchu cyfieithiadau Cymraeg cywir o ansawdd uchel.
  • Darparu cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau a chyflwyniadau byw yn ôl yr angen, gan gynnwys paratoi deunyddiau dwyieithog a sicrhau bod y Gymraeg yn weladwy drwy gydol y digwyddiad.
  • Cynnig arweiniad ieithyddol i gydweithwyr a sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn glir, yn gywir, ac yn hygyrch i bob defnyddiwr.

Manyleb bersonol

Meini Prawf Hanfodol

  • Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda gafael gadarn ar ramadeg, sillafu a chystrawen yn y ddwy iaith.
  • Profiad profedig o gyfieithu amrywiaeth o ddeunyddiau, ochr yn ochr â sgiliau prawfddarllen a golygu rhagorol.
  • Yn fedrus wrth ymgysylltu'n effeithiol ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr uwch, a meithrin cydberthnasau cynhyrchiol ar draws y sefydliad.
  • Trefnus iawn, gyda'r gallu i gydlynu nifer o ffrydiau gwaith, olrhain cynnydd, a datrys problemau i sicrhau darpariaeth amserol o ansawdd uchel.
  • Cyfathrebwr effeithiol ac effeithlon, sy'n gallu cyfleu gwybodaeth yn glir er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth a'r effaith fwyaf posibl.

Ieithoedd

Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda gafael gadarn ar ramadeg, sillafu a chystrawen yn y ddwy iaith.

Ymddygiadau

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Cyflawni’n brydlon
  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
  • Gweithio ar y cyd

Sgiliau technegol

Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Asesiad Cyfieithu a Phrawfddarllen Cymraeg

Buddion

Ochr yn ochr â'ch cyflog o £34,587, mae Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyfrannu £10,019 tuag at fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Buddion wedi'i Ddiffinio'r Gwasanaeth Sifil.