Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol mwyaf y DU, gan gwmpasu amrywiaeth o bynciau economaidd, cymdeithasol a demograffig allweddol. Mae hyn yn cynnwys mesur newidiadau yng ngwerth economi'r DU, amcangyfrif maint, dosbarthiad daearyddol a nodweddion y boblogaeth, a darparu dangosyddion mewn perthynas â chwyddiant prisiau, cyflogaeth, enillion, troseddau a mudo.
Bydd eich arbenigedd yn sicrhau bod gan gymunedau Cymraeg eu hiaith fynediad cyfartal at y wybodaeth hanfodol hon, o ystadegau cynnyrch domestig gros a data chwyddiant i ganlyniadau'r cyfrifiad ac ystadegau troseddau. Gan weithio yn ein his-adran Safonau Ystadegol fel rhan o dîm Polisi a Chydlynu Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, byddwch yn cefnogi'r broses o gyflawni ein Cynllun Iaith Gymraeg drwy ddarparu gwasanaethau cyfieithu o ansawdd uchel ar draws holl allbynnau'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys cyfieithu cyhoeddiadau, arolygon, cynnwys gwe, postiadau cyfryngau cymdeithasol, a deunyddiau ymgyrchoedd, gan sicrhau ansawdd gwaith gan ein darparwr cyfieithu allanol, Prysg, hefyd.
Mae'r Swyddog Cyfieithu a Chymorth Iaith Gymraeg yn gweithio yn yr is-adran Safonau Ystadegol, rhan o Swyddfa'r Ystadegydd Cenedlaethol sydd newydd ei ffurfio, gan gefnogi tîm Polisi a Chydlynu Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae'r rôl hon yn hanfodol i sicrhau bod y SYG yn cyflawni ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, gan sicrhau bod ein hystadegau economaidd, cymdeithasol a demograffig hanfodol yn hygyrch i gymunedau sy'n siarad Cymraeg.
Byddwch yn allweddol wrth weithredu ein Cynllun Iaith Gymraeg, sy'n sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal ar draws holl gyfathrebiadau'r sefydliad, o gyhoeddiadau ystadegol cymhleth a deunyddiau arolwg i gynnwys digidol ac ymgyrchoedd ymgysylltu â'r cyhoedd.
Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn amlinellu'r egwyddorion a'r ymrwymiadau sy'n ein tywys wrth ddarparu gwasanaethau a chynnal busnes cyhoeddus yn ddwyieithog lle bynnag y bo'n berthnasol ac yn briodol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal, a bod ein cyfathrebiadau, ein polisïau a'n rhyngweithiadau â chwsmeriaid yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn gyfrifol am gefnogi'r broses o gyflawni Cynllun Iaith Gymraeg y SYG drwy ddarparu cyfieithiadau o ansawdd uchel o ddogfennau a chynnwys rhwng y Saesneg a'r Gymraeg o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyhoeddiadau, arolygon, gohebiaeth, adroddiadau, cynnwys gwe, postiadau cyfryngau cymdeithasol, deunyddiau ymgyrchu, swyddi gwag, ac unrhyw adnoddau eraill a fwriadwyd ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru ar draws pob rhan o'r sefydliad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Tîm y Gymraeg i sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio'n llawn â'i rwymedigaethau o ran y Gymraeg ac yn hyrwyddo dwyieithrwydd yn weithredol ar draws pob maes gwaith.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prawfddarllen a sicrhau ansawdd yr holl gynnwys Cymraeg a gyfieithir gan Prysg, ein darparwr cyfieithu allanol, yn ogystal â gwaith a wneir gan gydweithwyr o fewn y sefydliad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn darparu cefnogaeth i Dîm Iaith Gymraeg y SYG a Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg wrth gyflawni ein Cynllun yn ehangach.
Cyfrifoldebau
Meini Prawf Hanfodol
Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda gafael gadarn ar ramadeg, sillafu a chystrawen yn y ddwy iaith.
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol:
Ochr yn ochr â'ch cyflog o £34,587, mae Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyfrannu £10,019 tuag at fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Buddion wedi'i Ddiffinio'r Gwasanaeth Sifil.