Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
|
Swydd Wag |
Swyddog Grantiau Cymru 0.6 Cyfwerth ag Amser Llawn |
|
Hyd y Cytundeb |
Cyfnod penodol hyd at Fawrth 2028, gyda phosibilrwydd o estyniad os oes cyllid ar gael |
|
Cyflog |
£36,000-£38,000 y flwyddyn (pro-rata) gyda chyfraniad pensiwn o 8% |
|
Lleoliad |
Gweithio o gartref o bell gyda theithio helaeth ledled Cymru, ynghyd ag ymweliadau rheolaidd i swyddfa’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn Llundain |
|
Cais |
Gofynnwn yn garedig i chi gyflwyno CV a llythyr eglurhaol (hyd at ddwy ochr A4) at recruitment@ahfund.org.uk. |
|
Dyddiad Cau ar gyfer Ymgeisio |
9yb ar Fehefin y 9fed 2026 |
|
Cyfweliadau |
Wythnos yn dechrau Mehefin 22ain 2026 |
Mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn awyddus i benodi Swyddog Grantiau i helpu cyflawni ein rhaglen graidd o grantiau a chynghori yng Nghymru. Cafodd y rôl hon ei chreu gyda diolch i gyllid hael gan Cadw, Adran Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn fodd i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ddarparu grantiau i gymunedau ledled Cymru, gan eu cynorthwyo i ddefnyddio adeiladau hanesyddol, sydd wedi’u hesgeuluso, unwaith eto.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu a rheoli llwyth achosion o brosiectau ledled Cymru. Byddan nhw’n cynghori ac yn arwain prosiectau drwy bob cam o gylch oes y prosiect, o’r cam hyfywedd cynnar hyd at y cam gwaith cyfalaf. Byddan nhw’n sicrhau bod y grantiau, lle caiff eu cynnig, yn cael eu dyrannu a’u monitro yn unol â meini prawf a blaenoriaethau’r rhaglen a byddan nhw’n cydweithio’n agos gyda phartneriaid allanol i gefnogi amcanion ar y cyd.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad helaeth yn dyrannu grantiau a rheoli prosiectau, sy’n gallu cydweithio fel rhan o dîm o bell ac sy’n gallu dangos diddordeb pendant yn nod y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol i hyrwyddo cadwraeth ac ail-ddefnydd cynaliadwy o adeiladau hanesyddol er budd cymunedau ledled y DU. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr hefyd feddu ar sgiliau rhifiadol cryf a phrofiad o ddefnyddio systemau TG a swyddfa cyffredin. At hyn, mae’n rhaid iddyn nhw feddu ar sgiliau cyfathrebu eithriadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y rôl gartref ond gyda theithio helaeth ar hyd a lled Cymru a theithio achlysurol i bob cwr o’r DU.
Sut i ymgeisio
Os hoffech chi ymgeisio am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol (o hyd at 1.5 ochr o dudalen A4, ar e-bost yn unig) yn dangos eich addasrwydd ar gyfer y swydd wag, at recruitment@ahfund.org.uk.
Mae’n rhaid i’ch cais ein cyrraedd erbyn 9yb ar Fehefin y 9fed 2026 fan bellaf. Ni fyddwn yn dwyn i ystyriaeth llythyrau wedi’u creu gydag AI. Ysgrifennwch eich llythyr eglurhaol eich hun os gwelwch yn dda.
Os cewch chi’ch ychwanegu at y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, byddwn yn cysylltu gyda chi erbyn Mehefin y 15fed 2026. Fodd bynnag, elusen fach ydym ni ac, yn sgil y nifer o geisiadau rydym yn eu disgwyl, mae’n ddrwg gennym na allwn gynnig adborth os na fyddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer.
Byddwn yn cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Fehefin yr 22ain 2026. Bydd y rhain ar-lein.
Gwybodaeth am y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol
Mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn elusen dreftadaeth flaenllaw a sefydlwyd ym 1976 i helpu elusennau a mentrau cymdeithasol ledled y DU i ddod o hyd i atebion ar gyfer adeiladau hanesyddol bregus. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cyngor, grantiau a benthyciadau. Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ac effaith ein gwaith yma: www.ahfund.org.uk
Rydym yn elusen sy’n ymrwymo i fod yn gynhwysol a rhoi cyfle cyfartal i bawb lwyddo – gallwch ddarllen mwy am ein hymrwymiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yma https://ahfund.org.uk/impact/commitments-edi/ Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred, hil, cyfeiriadedd rhywiol, statws trawsryweddol neu gefndir economaidd-gymdeithasol.