Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfa hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru’n Gweithio.
Cyfieithydd – Cymraeg – Cytundeb am hyd at 12 mis (dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth)
Cyflog: £30,993 – £37,330, Y cyflog cychwynnol yw £30,993
Oriau: Amser llawn (37 awr yr wythnos)
Lleoliad: Gan fod gennym nifer o ganolfannau ledled Cymru, fe bennir canolfan waith yr ymgeisydd llwyddiannus pan fyddwn yn gwneud y penodiad.
Dyddiad cau: 13/10/26
Mae sgiliau Cymraeg hyfedr yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gan weithio o fewn maes gwasanaeth Digidol a Chyfathrebu Gyrfa Cymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am wasanaeth cyfieithu a’i ddarpariaeth er mwyn sicrhau bod cynnwys cynhyrchion ein gwefan yn diwallu anghenion defnyddwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio llawer iawn o gynnwys a gyfieithwyd gan beiriant ac yn cyflawni rôl sicrhau ansawdd er mwyn cadw ystyr y testun gwreiddiol mor agos â phosibl. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys gweithio ar wasanaethau’r wefan, lle mae angen diweddaru a chyhoeddi llawer iawn o ddata yn rheolaidd o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.
Bydd y rôl yn cyfrannu at sicrhau bod Gyrfa Cymru yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, gan helpu i sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog cyson o ansawdd uchel ar gael i’n cwsmeriaid.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar:
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w wneud!
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl gael eu hanablu gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu hamhariad neu eu gwahaniaeth.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Mae’r swydd-ddisgrifiad llawn a’r ffurflen gais ar gael yn Swyddi Gwag – Gyrfa Cymru (llyw.cymru)
Dylid cyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau erbyn 13/10/26.
Cynhelir yr asesiadau ar 02/11/2026, ac yna’r cyfweliadau ar 03/11/2026.
Ewch i Wefan Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddarganfod mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth, a'n telerau ac amodau.