A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfieithydd, Amgueddfa Cymru / Swyddle
Swydd:
Cyfieithydd, Amgueddfa Cymru
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£29,106.19 - £35,857.56
Cyfeirnod:
R26072314
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Amgueddfa Cymru,National Museum of Wales
Dyddiad Cau:
16-09-2026

Cyfieithydd, Amgueddfa Cymru R26072314

Math o swydd wag: Dros Dro/Llawn Amser
Categori: Ymgysylltu â’r Gymuned
(Gwasanaethau Cefnogol)
Ystod cyflog: Gradd D: £29,106.19 - £35,857.56
Oriau: 35 awr yr wythnos
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Cymraeg yn hanfodol - hyfedredd

Crynodeb o'r Swydd

Cyfieithydd, Amgueddfa Cymru

Crynodeb o'r Swydd

Ydych chi’n gyfieithydd profiadol ac eisiau gwneud gwaith cyffrous ac amrywiol i gorff cenedlaethol? Dewch i fod yn rhan o dîm cyfieithu Amgueddfa Cymru a chyfrannu at ysgrifennu a rhannu ein straeon â’r byd.

Byddwch yn aelod o’r Tîm Cyfieithu a’r Iaith Gymraeg sy’n gyfrifol am gyfieithu, golygu, prawfddarllen a chyhoeddi cynnwys Cymraeg i wahanol gynulleidfaoedd mewn print ac yn ddigidol. Yr Adran sydd hefyd yn gyfrifol am Bolisi Iaith Gymraeg yr Amgueddfa gan ddatblygu a dathlu ein defnydd o’r Gymraeg i’r safon uchaf, sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau Iaith a hybu diwylliant Cymraeg y corff.

Prif gyfrifoldebau:

- Saernïo testun Cymraeg ar amser ac i’r safon uchaf heb oruchwyliaeth, gan gynnwys testun ar gyfer arddangosfeydd, gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol, isdeitlau, deunydd corfforaethol ac ati.
- Cyfieithu, prawfddarllen a golygu testun Cymraeg.
- Cyfuno gweithio’n annibynnol ar gyfieithiadau a thestun, a bod yn aelod o dîm ymroddedig a gweithgar.
- Cyfrannu at gynnal a datblygu geirfa arbenigol.

Lleoliad:

Gweithio hybrid / un o safleoedd Amgueddfa Cymru (gyda’r gallu i deithio i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o bryd i’w gilydd)

Ymgeisio:

Mae croeso i chi ymgeisio yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cynhelir y profion a’r cyfweliadau ar 30 Medi ac 1 Hydref 2026.

Os hoffech drafod y swydd, mae croeso i chi e-bostio Manon Humphreys, Rheolwr y Gymraeg: manon.wynhumphreys@amgueddfacymru.ac.uk.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 18 Medi 2026