Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae CyDA yn chwilio am Hyfforddwr/Hwylusydd ar gyfer prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide , fel rhan allweddol o’r gwaith o gyflwyno’r prosiect hwn, gyda chyfrifoldeb dros gynllunio, datblygu a darparu rhaglen hyfforddi sy’n datblygu llythrennedd hinsawdd a sgiliau ar gyfer gweithredu cymunedol ynghylch yr hinsawdd.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.
Mae CYDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall grwpiau weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.
Ariannir y rôl hon fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide, a ariannir diolch i Gronfa Weithredu yr Hinsawdd, sef ymrwymiad hirdymor gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo cymunedau ar draws y DU i weithredu ynghylch newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

Manylion Swydd:
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (7-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb 9 Tachwedd 2026
Cyfweliadau i’w cynnal: yr wythnos yn dechrau 23 Tachwedd 2026 (ar safle)
Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib
Trosolwg o’r Rôl
Mae Troi’r Llanw / Turning The Tide yn brosiect tair blynedd, ledled Cymru (dwyieithog), a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gyda’r nod o normaleiddio gwaith hinsawdd dan arweiniad y gymuned ac ymatebion i newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan sicrhau bod lleisiau sydd wedi’i ymyleiddio yn llunio penderfyniadau amgylcheddol, a helpu pobl i deimlo’n gryfach yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen ochr yn ochr â Cwmpas, Youth Cymru, Mentrau Iaith Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST).
Mae rôl yr Hwylusydd Hyfforddiant yn rhan allweddol o’r prosiect hwn, a bydd yn cynorthwyo Cydlynydd y Prosiect ar draws pob agwedd o hyfforddiant ar gyfer prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, a bydd yn gyfrifol am gynllunio, datblygu a darparu rhaglen hyfforddiant sy’n datblygu llythrennedd hinsawdd a sgiliau ar gyfer gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd.
Gan weithio fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, byddwch yn hyderus wrth baratoi a datblygu deunydd hyfforddiant, gan ddarparu o bell, ar ein safle yn CyDA ac mewn lleoliadau eraill ledled Cymru.
Prif Ddiben a Chyfrifoldebau’r swydd
Mae cyfrifoldebau deiliad y swydd yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i’r rhain:
I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn.
Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk
Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV