A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Terminoleg - Cymraeg yn hanfodol / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Terminoleg - Cymraeg yn hanfodol
Lleoliad:
Hybrid, Cymru
Cyflog:
£37,111 - £45,378
Cyfeirnod:
LlywGS2697 Cyf 4137
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 5
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Llywodraeth Cymru I Welsh Government
Dyddiad Cau:
21-09-2026

Rheolwr terminoleg

Cyflog: HEO: £37,111 - £45,378

Bydd cyflog cychwynnol rhwng £37,111 a £41,834 yn cael ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus, yn seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, a pherfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod yr ystod hon.

Lleoliad: Ledled Cymru (gweithio hybrid yn unol â pholisïau’r Llywodraeth). Mae gan y Gwasanaeth Cyfieithu staff yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno. Mae swyddfeydd hefyd ym Merthyr Tudful, Penlle’r-gaer a Wrecsam.

Cytundeb: Parhaol, Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)

Dyddiad Cau: 21 Medi 2026

Dyma gyfle gwych i ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, a chyfrannu at ein gwaith o gefnogi’r llywodraeth i gyflwyno’i rhaglen lywodraethu ac o gynorthwyo’r Gweinidogion i rannu eu negeseuon â’r cyhoedd.

PWRPAS Y SWYDD

Mae’r swydd hon yn rhan o’r uned sy’n darparu cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Prif amcanion y swydd yw:

  • Cynnal ymchwil terminolegol a rhoi cyngor arbenigol ar dermau yn y Gymraeg, yn unol â safonau ac egwyddorion cydnabyddedig.
  • Cynorthwyo i ddatblygu adnoddau terminoleg blaenllaw’r Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cronfa gyhoeddus TermCymru ac adnoddau terminoleg eraill BydTermCymru.
  • Hyrwyddo arferion safonol a datblygiad o ran terminoleg ac enwau lleoedd yn y Gwasanaeth Cyfieithu ac o fewn Llywodraeth Cymru’n ehangach.

 

Rhoddir hyfforddiant llawn ym meysydd gwaith terminoleg ac enwau lleoedd i’r ymgeisydd llwyddiannus.

CYFLEOEDD DATBLYGU

  • Datblygu ac ehangu’ch gyrfa ym maes y Gymraeg gan dderbyn  hyfforddiant llawn mewn gwaith terminoleg, sy’n ddisgyblaeth allweddol i gefnogi’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt.
  • Gweithio mewn uned unigryw sy’n darparu cefnogaeth arbenigol i wasanaeth ieithyddol mawr, amlddisgyblaeth.
  • Atgyfnerthu’ch sgiliau ymchwil a dadansoddi mewn maes ieithyddol, arbenigol.
  • Cefnogaeth i sefyll profion aelodaeth cymdeithasau cyfieithu proffesiynol, megis Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yr ITI/IOL. Telir y ffioedd aelodaeth gan y Gwasanaeth Cyfieithu.
  • Cyfle cyffrous i gyfrannu at ddatblygu maes terminoleg yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datblygu rhagor ar adnoddau allweddol fel TermCymru, a rhoi syniadau newydd ar waith.

 

RHAGOR O WYBODAETH

Defnyddiwch y botwm "Ceisio Nawr" i fynd i wefan y Llywodraeth er mwyn gweld pecyn gwybodaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a chael rhagor o wybodaeth am ofynion y swyddi, y meini prawf recriwtio, y broses ymgeisio a'r amserlen.