A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cymorth Arolygiaeth Gofal Cymru x5 / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cymorth Arolygiaeth Gofal Cymru x5
Lleoliad:
Cymru
Cyflog:
£27,302
Cyfeirnod:
CIW5626
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Arolygiaeth Gofal Cymru | Care Inspectorate Wales
Dyddiad Cau:
15-06-2026

Swyddog Cymorth Arolygiaeth Gofal Cymru x5 - Cymorth Tîm

Dyddiad cau  15/06/2026, 16:00 

Sail hysbysebu  Cyfnod Penodol

Union gyflog cychwynnol  £27,302

Ystod cyflog neu fand cyflog  Cymorth Tîm £27,302 i £29,291

Patrwm gwaith  Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)

Hyd  Cyfnod penodol hyd at 12 mis gyda'r posibilrwydd o swydd barhaol.

Grŵp  Grŵp y Prif Weinidog

Cyfarwyddiaeth  Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Cangen  Gwasanaethau Cymorth

Lleoliad (au)  Ledled Cymru

Ystyr 'Cymru Gyfan' yw y gall deiliad y swydd fod wedi'i leoli mewn unrhyw swyddfa Llywodraeth Cymru, gan ddibynnu ar anghenion y busnes. Nid yw rolau sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru, gan gynnwys Llundain, ar gael oni bai eu bod wedi'u nodi'n benodol yn yr hysbyseb.

Mae rhestr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gael yn www.llyw.cymru/swyddfeydd-llywodraeth-cymru.  Sylwch na fydd hi efallai yn bosibl bodloni dewis rhywun o leoliad swyddfa penodol.

Ystyrir bod deiliad y swydd yn teithio o'i gartref i'r swyddfa Llywodraeth Cymru a neilltuwyd iddynt yn 'daith cymudo arferol', a rhaid iddynt ei gyflawni yn ei hamser a chost ei Hunain.

Pwrpas y swydd  
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.

Diben AGC yw annog gwaith i wella gwasanaethau cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu, adolygu a rhoi cyngor proffesiynol. Mae AGC yn cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru. Rydym yn rhan o Grŵp y Prif Swyddog Gweithredol yn Llywodraeth Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Arolygu, y Tîm Cymorth Cofrestru neu'r Tîm Gwasanaethau Cymorth i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol ac yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion busnes corfforaethol.

Tasgau Allweddol  

Darparu cymorth gweinyddol a digidol cyffredinol; gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf a/neu ail bwynt cyswllt ar gyfer galwadau a negeseuon e-bost, yn dibynnu ar ba dîm y cewch eich paru ag ef. Cofnodi a dosbarthu negeseuon e-bost sy'n dod i mewn ac yn mynd allan; cynnal cofnodion mewnol yn ôl yr angen;

Monitro blychau post y tîm, gan brosesu a chyfeirio ymholiadau at gysylltiadau perthnasol yn AGC a Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth fel y bo'n briodol neu eu cyfeirio'n allanol at bartneriaid a sefydliadau eraill.

Trefnu cyfarfodydd mewnol yn ôl yr angen, rheoli'r defnydd o Microsoft Teams ac ystafelloedd cyfarfod/cyfweld ar y safle (lle bo angen), cymryd cofnodion a dosbarthu papurau.

Helpu i goladu dogfennau sy'n gysylltiedig â chofrestru neu arolygu, gan sicrhau y caiff cofnodion eu mewnbynnu a'u cynnal yn gywir.

Helpu'r swyddfa i gynhyrchu adroddiadau arolygu, adolygu a chofrestru, monitro'r gwaith o gyflawni'r amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi, a rheoli'r broses o gynhyrchu adroddiadau gan gynnwys prosesu geiriau, fformatio a dosbarthu adroddiadau;

Darparu cymorth pwynt cyswllt cyntaf/ail bwynt cyswllt i AGC, gan ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd a chwsmeriaid mewnol lle y bo'n bosibl, a derbyn ac ymateb i ymholiadau a phryderon cyffredinol ac ymholiadau a phryderon sy'n ymwneud ag arolygiadau. Os na allwch ddatrys yr ymholiad, sicrhau y caiff eitemau eu dirprwyo a'u trosglwyddo i'r tîm/arolygydd perthnasol er mwyn iddo ymateb iddynt.

Defnyddio system rheoli achosion AGC i ymateb mewn ffordd sensitif a chyfrinachol wrth gydnabod pryderon a hysbysiadau; gan gynnwys rhoi cymorth yn ystod camau gorfodi dan gyfarwyddyd Rheolwr Cyswllt AGC;

Defnyddio system rheoli achosion AGC i fewnbynnu data cywir ac amserol. Cadarnhau cywirdeb manylion cyswllt cyn cyfathrebu â darparwr. Hysbysu'r tîm perthnasol am broblemau sy'n codi wrth ddefnyddio'r gronfa ddata pan na all eu datrys;

Rhoi cymorth i gydweithwyr yn nhîm y Prif Arolygydd a thîm ehangach yr Uwch-reolwyr, a chyflenwi yn eu lle, yn ôl yr angen.

Cynnal cyfrinachedd ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys trin gwybodaeth gyfrinachol.

Cynnal systemau ffeilio electronig (iShare), caniatadau, a rheolaethau dogfennau i safonau uchel o ran llywodraethu gwybodaeth.

Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd priodol gan drafod â'r rheolwr llinell.

Unrhyw ddyletswyddau gweinyddol eraill y gall fod angen eu cyflawni ar gais y rheolwr llinell.

Cyfleoedd i Ddatblygu  
Bydd deiliad y swydd yn elwa ar y canlynol:

Dealltwriaeth eang o bob un o feysydd busnes AGC.

Y cyfle i weithio gyda chydweithwyr mewn meysydd gwaith gwahanol yn AGC, gan gynnwys arolygwyr sy'n ymwneud â gweithgarwch rheoleiddio, cydweithwyr yn y tîm cymorth a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth arall yn ymwneud â’r swydd wag  

Os bydd nifer mawr o geisiadau'n dod i law, cynhelir proses sifftio gychwynnol yn erbyn y prif faen prawf asesu: Profiad 1. Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y broses sifftio gychwynnol yn symud ymlaen i'r broses sifftio lawn neu'n symud ymlaen yn syth i'r cam asesu/cyfweld.

Mae'n bosibl y cedwir rhestr wrth gefn ar gyfer y cyfle hwn. Bydd unrhyw ymgeisydd y cynigir statws wrth gefn iddo yn parhau ar y rhestr wrth gefn am gyfnod o 12 mis.

Mae Gofynion o ran y Gymraeg yn Ddymunol ond nid ydynt yn hanfodol ar gyfer y rôl, ac mae'n bosibl y cânt eu defnyddio wrth bennu trefn teilyngdod / gwneud penderfyniad rhwng ymgeiswyr os bydd angen.

Gall y swyddi hyn fod wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Rydym yn defnyddio dull hybrid o weithio, sef 'Gweithio'n Glyfar' fel y'i gelwir yn Llywodraeth Cymru; mae hyn yn cynnwys cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa yn unol â'ch ymrwymiadau ac anghenion y busnes.

Lefel fetio  Sylfaenol

Nifer y swyddi  5

Pwynt cyswllt i gael rhagor o wybodaeth am y swydd  
CIWHR@gov.wales

Gofynion y Gymraeg  
3 - Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, fodd bynnag, maent yn ddymunol a byddant yn cael eu hystyried os bydd dau neu fwy o ymgeiswyr yn derbyn yr un sgôr yn y cam ymgeisio neu gyfweliad.