Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cynghorydd Cadwyni Cyflenwi
Yn atebol i’r canlynol Rheolwr y Tîm Cynghori ar Ddatblygu Busnes
Is-adran Y Gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf
Lleoliad Gweithiwr Gartref Rheolaidd
Y Contract
Mae Gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf, Busnes Cymru yn canolbwyntio ar roi cyngor eang i fusnesau sy’n ehangu. Gwneir hyn trwy gyfrwng gwahanol ddulliau, yn cynnwys cymorth digidol, cymorth dros y ffôn a chymorth wyneb yn wyneb.
Y Rôl
Cynorthwyo Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru i ganfod a chyrchu cyfleoedd caffael trwy gyfrwng y gweithgareddau canlynol:
• Galluogi busnesau i fod yn gystadleuol ac i lunio tendrau ar gyfer cyfleoedd caffael.
• Cynorthwyo Busnesau Bach a Chanolig i gyrchu a defnyddio pyrth caffael perthnasol yn effeithiol, yn cynnwys dealltwriaeth drylwyr o GwerthwchiGymru.
• Rhoi canllawiau ar ofynion cyflenwyr a rheoliadau caffael cyfredol.
• Cynnig cymorth a chyngor ar lunio cynigion ar y cyd, ystyriaethau gwerth cymdeithasol a pholisïau cyfredol Llywodraeth Cymru.
• Canfod a chyfathrebu cyfleoedd ehangach yn ymwneud â chymorth busnes sydd ar gael trwy gyfrwng rhwydweithiau partneriaid, er mwyn cynorthwyo Busnesau Bach a Chanolig i barhau i ddatblygu.
• Datblygu dealltwriaeth o oblygiadau cyfreithiol a rheoleiddiol, yn cynnwys newidiadau i ddeddfwriaethau caffael.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Cadwyni Cyflenwi i weithio ar y cyd â phrynwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ledled Cymru er mwyn gwella’r modd yr ymgysylltant â Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru.
• Rhoi cymorth teilwredig i brynwyr, yn cynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau Haen 1, er enghraifft trwy gyfrwng digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr sy’n gysylltiedig â’u contractau.
• Creu llif wybodaeth ddwy ffordd trwy gydweithio’n agos â rhwydweithiau rhanddeiliaid a phrosiectau lleol a chenedlaethol hollbwysig.
• Cefnogi dulliau ar gyfer datblygu gwybodaeth am werthoedd cyfleoedd sydd yn yr arfaeth, gan helpu i greu darlun cenedlaethol.
• Creu cyfleoedd i gadw gwariant y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn yr economi leol.
Y Cyfrifoldebau
1. Rhoi cymorth a chyngor caffael arbenigol un-i-un i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru, naill ai’n ddigidol neu wyneb yn wyneb.
2. Hwyluso a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau un-i-nifer, yn cynnwys gweminarau, gweithdai, seminarau a chyflwyniadau.
3. Ymgymryd â’r holl weithgareddau mewn modd proffesiynol, hyddysg a chyson, gan ddefnyddio deunyddiau ac adnoddau y cytunwyd arnynt.
4. Cynnal dealltwriaeth fanwl o dirlun caffael Cymru, gan ymgysylltu’n effeithiol â phrynwyr yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth, sicrhau rhwydweithiau atgyfeirio a chefnogi gweithgarwch.
5. Cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol o gyfraith caffael, polisïau Llywodraeth Cymru a themâu hollbwysig sy’n dylanwadu ar dirlun caffael Cymru.
6. Mynychu digwyddiadau ymgysylltu a rhwydweithio busnes er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth ymhlith darpar gleientiaid a rhanddeiliaid.
7. Cynnal gwybodaeth am ddatblygiadau lleol, cenedlaethol a sector-benodol, tueddiadau busnes ehangach, ac arferion da yn y maes arbenigol.
8. Datblygu a chynnal dealltwriaeth o dirlun buddsoddi Cymru, gan bennu cyfleoedd newydd a datblygol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid i ategu gweithgarwch gwasanaethau.
9. Creu a datblygu cynnwys digidol arbenigol, megis tiwtorialau fideo, a sicrhau bod yr holl adnoddau digidol cysylltiedig yn gyfredol (e.e. taflenni ffeithiau a chynnwys trydydd parti a ddefnyddir ar gyfer cyfeirio).
10. Gweithio ar y cyd â’r tîm rheoli i ddatblygu cynnwys a gweithgareddau arloesol, a chyfrannu at gyflwyno DPP i gydweithwyr ledled y gwasanaeth ehangach.
11. Defnyddio adnoddau diagnostig cymeradwy ar gyfer asesu anghenion busnes cleientiaid, pennu rhwystrau sy’n atal datblygiad a thwf, a sicrhau bod cofnodion cleientiaid yn cael eu diweddaru o fewn amserlenni penodedig.
12. Cynnal cofnodion manwl gywir o’r holl weithgareddau a sicrhau y cwblheir gwaith dilynol mewn modd amserol.
13. Ymgymryd â dysgu cytunedig er mwyn cynnal DPP a rhannu gwybodaeth yn rhagweithiol i ategu ymgysylltiad, cyrhaeddiad, a darpariaeth gwasanaethau, yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Cyflawni a Rheolwr y Tîm Cynghori ar Ddatblygu Busnes.
14. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chais rhesymol y Tîm Uwch-reolwyr.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:
15. Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy’r cymorth busnes a roddir i gleientiaid.
16. Cynnal ymwybyddiaeth gyfredol o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth a’r modd y gellir cyflwyno gwasanaethau cynhwysol i bob cleient mewn modd proffesiynol, yn ogystal â dilyn hyfforddiant a DPP yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
17. Cyflwyno gwasanaeth cynhwysol yn unol â gwerthoedd a gofynion contractiol Business in Focus.
Diffiniad eang o gyfrifoldebau’r swydd a nodir uchod. Nid ystyrir pob agwedd ar y gwaith y gall fod angen i ddeiliad y swydd ei gyflawni. Mae hyblygrwydd yn hanfodol, oherwydd bydd oriau gwaith deiliad y swydd yn cael eu pennu gan ofynion y busnes.