Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Prif rôl Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol yw cefnogi’r tîm Marchnata gyda’r gwaith o gynllunio, trefnu a darparu gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol dwyieithog sy’n denu darpar fyfyrwyr i astudio gyda’r Brifysgol. Bydd y rôl yn canolbwyntio'n bennaf ar greu ac amserlennu gwahanol fathau o gynnwys dwyieithog sy'n annog ymgysylltiad cadarnhaol â’r Brifysgol ar draws ei chyfres o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Saesneg.
Gan adrodd i Reolwr y Cyfryngau Cymdeithasol, bydd disgwyl hefyd iddynt feithrin perthnasau proffesiynol agos â rhanddeiliaid ar draws PCYDDS i sicrhau dull rhagweithiol wedi’i gynllunio ar gyfer pob un o weithgareddau cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol.
Bydd Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol yn gyfrifol am oruchwylio grŵp o Grewyr Cynnwys.
Lleolir Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol yn bennaf naill ai yng Nghaerfyrddin neu Abertawe. Fodd bynnag, gall fod yn ofynnol i’r deiliad swydd ymweld hefyd â champysau eraill PCYDDS i ddarparu cyngor ac arweiniad ar gyfer cydweithwyr.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am fanylion y meini prawf hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.
Mae gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 22 Hydref 2025
Dyddiad y cyfweliad: I’w gadarnhau