A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol / Swyddle
Swydd:
Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£49,500 y flwyddyn
Cyfeirnod:
202604S4C1
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
11-05-2026

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Trosolwg y Swydd

Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl, yng Nghymru a thu hwnt. Mae presenoldeb S4C ar y llwyfannau yma yn allweddol er mwyn cyrraedd ac ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd. Gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C, mae’n faes prysur, heriol a chyffrous.

Fel Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol, byddwch yn arwain tîm o swyddogion digidol ac yn gyfrifol am drefnu blaenoriaethau a llifoedd gwaith.  Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth siapio ein gweledigaeth a strategaethau digidol, gan sicrhau bod datblygiad cynnwys yn cydfynd â thueddiadau ac anghenion cynulleidfaoedd heddiw ac yn y dyfodol. Byddwch yn defnyddio data a mewnwelediad arbenigol i ragweld newidiadau yn y tirlun, gan sicrhau bod S4C yn parhau i fod yn berthnasol ac ar gael ar blatfformau cyfoes. Mae hwn yn gyfle unigryw i yrru arloesedd, datblygu cynnwys gafaelgar, ac ehangu presenoldeb a brand S4C.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tîm comisiynu i adnabod, datblygu a rhoi blaenoriaeth i gynnwys digidol yn gyntaf a digidol yn unig. Byddwch hefyd yn cydweithio gyda’r timau marchnata a chyfathrebu ar ymgyrchoedd hyrwyddo integredig. Bydd angen sicrhau trosolwg ar draws holl gynnwys digidol cyfresi ac is-frandiau S4C, ac yn cynghori a rhoi arweiniad i’r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.

Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau arwain a’r gallu i weithio'n gydweithredol ar draws adrannau S4C i sicrhau bod ein cynnwys yn parhau i fod yn flaenllaw tra’n cadw at ein gwerthoedd craidd a’n goblygiadau gwasanaeth cyhoeddus.

Yn y rôl hon byddwch yn cefnogi ac yn dirprwyo i’r Pennaeth Digidol a Ffrydio wrth i chi ymgymryd â chyfrifoldebau rheoli, arwain a strategol.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)

Cyflog: £49,500 y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith:  35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf: 3 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 11 Mai 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth