Gwneud Gwahaniaeth.
Mae hwn yn gyfle gyrfa cyffrous a rhagorol i weithio i’r Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf yng Nghymru ac ar y cyd ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Byddwch yn cyfrannu at lwyddiant cwmni sy’n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel magnet a sbardun economaidd allweddol i’r rhanbarth. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bychan sy’n canolbwyntio ar wella ffyniant pobl Gogledd Cymru. Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae M-SParc (is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor) yn Barc Gwyddoniaeth sydd â’r nod o gefnogi mentrau a phrosiectau sy’n cael eu harwain gan wybodaeth i dyfu a llwyddo. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan www.m-sparc.com
Yn hollbwysig, mae’r rôl hon yn ganolog i gyflawni ein Hamcanion Strategol: • Sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol mesuradwy i Ogledd Cymru.
• Bod yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol gynaliadwy.
• Cael ei gydnabod yng Nghymru fel arweinydd ym maes arloesi.
• Meithrin syniadau arloesol o gysyniadau i'r farchnad.
• Gwella enw da Gogledd Cymru fel lleoliad lle gall busnesau arloesol sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth a thechnoleg ffynnu.
• Hyrwyddo diwylliant o fentergarwch, cefnogi busnesau newydd a busnesau deillio a chadw busnesau mwy yn arloesol ac yn ffres.
• Darparu cyfleoedd cyflogaeth newydd i weithwyr medrus.
• Darparu dyfodol cadarnhaol i’r bobl ifanc yn y rhanbarth i fod yn falch ohono ac i anelu ato.
• Parhau â’n taith egnïol, fywiog a chyffrous gan fynd â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid ar y daith gyda ni.
Pwrpas y Swydd
Mae M-SParc yn gweithio i greu gyrfaoedd sy’n talu’n dda, ac er mwyn cyflawni hyn rydyn ni’n cefnogi’r gwaith o uwchsgilio pobl ifanc, pobl sydd eisiau newid gyrfa, a graddedigion sy’n chwilio am gyfleoedd a phrofiad gwaith. Mae gennym gyfle cyffrous rŵan i helpu i bontio bwlch sgiliau’r rhanbarth a gweithio i gefnogi mwy o bobl i gael gyrfaoedd mewn sectorau ynni carbon isel, gwyddoniaeth, technoleg, digidol a chreadigol-digidol, yn ogystal â hybu meddylfryd entrepreneuraidd.
Mae dros 105 o swyddi newydd wedi cael eu creu yn M-SParc ers 2018, ac mae’r cyflog cyfartalog wedi bod yn £5,000 yn uwch na chyfartaledd Cymru. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod bwlch sgiliau mawr yn y rhanbarth.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn rydyn ni wedi ymchwilio’n helaeth i ofynion diwydiant yn y rhanbarth ac wedi gweithio gydag ysgolion i ddatblygu rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau a chynigion, o’r enw ‘Sgil-SParc’, sydd wedi'i ddylunio’n benodol i lenwi’r bwlch hwn. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys yr ‘Academi Sgiliau’, sy’n cefnogi pobl i ddiwydiant, gweithdai ‘Egni’ a ‘Digidol’ i uwchsgilio pobl 16+ oed yn barhaus ac – yn fwyaf perthnasol i’r swydd hon – y maes ‘STEM-SParc’, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer pobl 16 oed ac iau ac wedi’i fapio’n benodol yn erbyn y cwricwlwm newydd i Gymru, a gofynion lleol.
Mae’r rôl hon yn cynnwys arwain y gwaith o ddatblygu a darparu gweithdai STEM, yn enwedig darparu a datblygu STEM-SParc – rhaglen newydd i uwchsgilio plant a phobl ifanc.
Bydd yr ymgeisydd yn ddigon hyblyg i gefnogi prosiectau eraill yn M-SParc, gan gynnwys gweithdai a digwyddiadau ad-hoc, felly mae’n hanfodol bod yn ‘chwaraewr tîm’, yn ogystal â bod â dealltwriaeth ac angerdd am y sectorau sy’n datblygu yn y rhanbarth. Er enghraifft, efallai fod gennych chi ffocws sector ar Garbon Isel neu Ddigidol, a sgiliau i gefnogi hyn.
Mewngofnodwch i wefan Swyddle i agel eich cyfeirio at wybodaeth bellach