Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Teitl y Swydd: Prentis Arwain Gweithgareddau Awyr Agored, Lefel 2
Math o gontract: Cytundeb tymor penodol, 13 mis
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Cyflog Prentis Blwyddyn 1: £14,181 y flwyddyn
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn
Dyddiad Cau: 5ed o Fedi 2025
Dyddiad Cyfweld: i’w gadarnhau
Y Swydd
Nod y swydd fydd cynnig profiadau, cymwysterau a phrofiad i ddatblygu sgiliau i fod yn hyfforddwr/wraig ysbrydoledig a chadarnhaol yn y maes Awyr Agored.
Mae Gwersyll Glan-llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel. Mae’r gweithgareddau yma i gyd yn cael eu harwain gan staff cymwys a phroffesiynol a rydym eleni yn cynnwys cyfleon prentisiaeth i unigolion brwdfrydig ymuno a’r tîm.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mair Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn ar mairedwards@urdd.org neu 01678 541000
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at prentisiaeth@urdd.org