Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Cyfle cyffrous i ymuno â TrC fel Rheolwr Contractau Trafnidiaeth (Rheoli Seilwaith) lle byddwch yn gyfrifol am reoli’r gwaith o gyflawni Cytundeb Seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer gwasanaethau rheoli seilwaith ar ran yr Awdurdod (Trafnidiaeth Cymru), gydag Amey Infrastructure Wales, fel aelod allweddol o’r Tîm Contractau Trafnidiaeth.
Cyfrifoldebau’r swydd
Byddwch yn arwain y gwaith o reoli’r Cytundeb Seilwaith o ddydd i ddydd ar ran Trafnidiaeth Cymru drwy fod yn gyfrifol am reoli’r gwaith o gyflawni a sicrhau cydymffurfiaeth â’r rhwymedigaethau a cherrig milltir ymrwymedig ar gyfer gwasanaethau rheoli seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL).
Byddwch yn rheoli prosesau cydymffurfio a chofnodi’r holl newidiadau mewn contractau sy’n berthnasol i wasanaethau Rheoli Seilwaith y Cytundeb Seilwaith, o ddatblygu unrhyw gynigion am newidiadau mewn contract i sicrhau cymeradwyaeth gan yr Awdurdod a Llywodraeth Cymru, cyn cyhoeddi unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt mewn contract i sicrhau trywydd archwilio cadarn sy’n cydymffurfio
Byddwch yn dylunio a gweithredu systemau a phrosesau rheoli contractau sy’n ymwneud â’r IA a chontractau rheilffyrdd eraill sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau Rheoli Seilwaith gan AIW, fel trefniadau rhyngweithio dan gontract i sicrhau darpariaeth rheoli contractau sy’n cydymffurfio.
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Bydd angen y canlynol arnoch:
Buddion:
Pwy ydyn ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.