A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Reolwr Prosiectau TG / Swyddle
Swydd:
Uwch Reolwr Prosiectau TG
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
£50,000 - £53,000
Cyfeirnod:
REC01484
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
21-12-2025

Disgrifiad Swydd


noder - mae hwn yn gontract tymor penodol tan fis Mawrth 2028

 

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Pwrpas swydd yr Uwch Reolwr Prosiect yw cyflawni nifer o ofynion TG a Gwasanaethau Digidol ar gyfer prosiect mawr i gynefino busnes newydd ac i wella effeithiolrwydd TrC fel sefydliad a gwella profiad defnyddwyr o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.   

  • Arwain a chyflawni portffolio o brosiectau TG a Gwasanaethau Digidol ar draws Trafnidiaeth Cymru a'i bartneriaid cyflawni, gan ddefnyddio methodolegau cylch bywyd prosiect cadarn fel APM neu PRINCE2 a rheoli adnoddau'n effeithiol i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau'n ddiogel, ar amser, o fewn y gyllideb, ac i'r safonau ansawdd gofynnol.

 

  • Gweithio mewn menter trawsnewid strategol mawr yn yr adran seilwaith i ail-lunio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau ar draws swyddogaethau gweithredol a galluogi, gan gydweithio â'r adran TG a nifer o ffrydiau gwaith, gan gynnwys rheoli asedau, cyllid ac Adnoddau Dynol, i ddylunio a gweithredu model gweithredu cymhleth sy'n cryfhau llywodraethu ac effeithiolrwydd sefydliadol.

 

  • Darparu gwasanaeth rheoli prosiectau proffesiynol ac effeithiol drwy sicrhau llywodraethu, adrodd a chydlynu gweithgorau technegol a grwpiau llywio gweithredol, gan ddilyn prosesau ac amserlenni TrC i gyflawni prosiectau sy'n bodloni amcanion cost ac ansawdd.

 

  • Datblygu gweithdrefnau cyflawni prosiectau TG a Gwasanaethau Digidol drwy fonitro newidiadau deddfwriaethol ac ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi i wreiddio methodolegau arfer gorau, gan sicrhau cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus wrth roi prosiectau ar waith.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cymhwyster lefel gradd mewn TG neu brofiad cyfatebol.
  • Cymhwyster rheoli prosiectau megis APM neu PRINCE2 neu debyg.
  • Profiad amlwg o arwain ar amrywiaeth o brosiectau TG a Gwasanaethau Digidol cymhleth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth/rheilffyrdd fel arweinydd y prosiect.
  • Profiad amlwg o reoli cyllideb, gan gynnwys llunio rhagolygon a monitro gwariant.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.