A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cofrestru / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cofrestru
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£30,755 - £34,997 y flwyddyn
Cyfeirnod:
202603GA
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Cyngor y Gweithlu Addysg | Education Workforce Council
Dyddiad Cau:
14-04-2026

Pwrpas y Swydd

Ac yntau’n adrodd yn uniongyrchol i’r Rheolwr Cymwysterau a Chofrestru, bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo â darparu gwasanaethau Cymwysterau a Chofrestru dwyieithog y CGA i ymarferwyr addysg, ymarferwyr dan hyfforddiant, cyflogwyr ac eraill yng Nghymru.

 

Cyfrifoldebau

Bydd y Swyddog Cofrestru, gan weithio’n rhan o dîm dan gyfarwyddyd y Rheolwr Cymwysterau a Chofrestru, yn:

  • Chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith cofrestru CGA, gan gynnwys cynnal a chadw’r Gofrestr o Ymarferwyr Addysg, cofrestru ymarferwyr addysg trwy gasglu ffioedd cofrestru blynyddol yn ogystal â chofrestru ymgeiswyr newydd trwy gydol y flwyddyn;
  • Chwarae rhan yn penderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr i gofrestru gyda CGA yn flynyddol;
  • Casglu a chynnwys data gan ymarferwyr, cyflogwyr ac eraill yng Nghymru ar gronfa ddata’r Gofrestr o Ymarferwyr Addysg yn barhaus;
  • Cynorthwyo â gweinyddu’r gwaith o ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig i ymarferwyr dan hyfforddiant ac eraill, gan gynnwys casglu canlyniadau cyrsiau oddi wrth Sefydliadau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, cyhoeddi tystysgrifau ac ystyried ceisiadau am Statws Athro Cymwysedig;
  • Cynorthwyo â gwaith CGA yn gysylltiedig â Sefydlu statudol i ymarferwyr newydd gymhwyso yng Nghymru, gan gynnwys casglu canlyniadau gan Gyrff Priodol a chyhoeddi tystysgrifau;
  • Darparu gwasanaeth ymholi dwyieithog proffesiynol a chyfleuster desg gymorth i ymarferwyr a chyflogwyr ynghylch materion cofrestru a chymwysterau; a gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ag ymarferwyr, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau allanol eraill mewn perthynas â materion yn ymwneud â chofrestru a chymwysterau;
  • Darparu adroddiadau rheolaidd ac ystadegau perfformiad at ddibenion uwch reolwyr;
  • Datblygu gweithdrefnau adrodd safonol ac ad hoc gan ddefnyddio’r feddalwedd sydd ar gael a pharatoi systemau awtomataidd i wirio cofnodion, fel bo’r angen;
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys deddfwriaeth y Gymraeg, Cydraddoldeb a’r Rheoliadau ar Ddiogelu Data; ac
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio neu'r Rheolwr Cymwysterau a Chofrestru, sy'n gymesur â'r swydd a'r radd.