A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Diogelwch Prosiectau / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Diogelwch Prosiectau
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC002828
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
19-11-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Y Rheolwr Diogelwch Prosiectau fydd yr arweinydd prosiectau a chyflawni parhaus allweddol yn y tîm diogelwch, diogeledd a risg.  Byddwch yn cefnogi prosiectau gwella sy'n gwella cydymffurfiaeth, risgiau a materion cyfreithiol. Bydd yn swydd ddeinamig yn rhoi prosesau a systemau arloesol ac ystwyth ar waith yn y busnes. Bydd y swydd yn gofyn am bobl allweddol a sgiliau trefnu i asesu sefyllfaoedd yn gyflym, nodi gwelliannau, a chefnogi gwelliannau'n effeithlon gyda rhanddeiliaid.

 

  1. Bod yn arweinydd iechyd a diogelwch o ran cyflawni prosiectau a rhyngweithio â nhw. Bod ar flaen y gad o ran yr holl newidiadau, gwelliannau a gweithrediadau.
  2. Ar y cyd â rhanddeiliaid y prosiect, nodi cyfleoedd i wella, cytuno ar adnoddau, a rhoi'r ddarpariaeth ar waith.
  3. Mynd ati’n rhagweithiol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella’n barhaus a rheoli risg.
  4. Cael eich ystyried yn ddatryswr problemau yn y busnes gyda chysylltiadau cadarnhaol fel arbenigwyr pwnc ar draws y busnes sy'n gweithio mewn prosiectau sy'n effeithio ar weithrediadau trenau, fflyd a seilwaith gorsafoedd
  5. Cyfarwyddo’r swyddogaeth drwy hyfforddi a mentora i gyflawni rhwymedigaethau’r system rheoli diogelwch.
  6. Mynd ati’n rhagweithiol i fonitro systemau adrodd fel achosion trwch-blewyn, damweiniau fu bron â digwydd a phryderon ynghylch diogelwch, yn ogystal â nodi a dadansoddi tueddiadau.
  7. Cyfarwyddo cynrychiolwyr rheoli a diogelwch yn y busnes i ddehongli a defnyddio gofynion, rhaglenni a gweithdrefnau cyfreithiol ac iechyd a diogelwch.
  8. Cefnogi'r busnes i ddatblygu/adolygu asesiadau risg sy'n cynnwys y rheini sy'n ofynnol o dan reoliadau defnyddio cyfarpar gwaith (PUWER) a rheoliadau gweithrediadau codi a chyfarpar codi (LOLER).

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Tystysgrif Gyffredinol NEBOSH neu gymhwyster cyfatebol.
  • Cymhwyster PUWER neu'n barod i weithio tuag ato
  • Cymhwyster LOLER neu'n barod i weithio tuag ato
  • Rheoli a / neu gyflawni prosiectau
  • Profiad CSMRA
  • Cymhwyster CDM
  • Profiad o weithio gyda systemau rheoli amgylcheddol a diogelwch.
  • Cefndir mewn ymchwilio i ddamweiniau/digwyddiadau a dadansoddi gwraidd y broblem.
  • Gallu cynhyrchu gwaith o safon uchel o fewn amserlenni byr, gan roi sylw i fanylion ac elfennau o ansawdd i'w cyflawni

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.