Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi rhannu cynnig i gynnal darpariaeth addysgol ar gampws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan. Mae cynlluniau wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer Canolfan Ragoriaeth i ddarparu ystod eang o gyrsiau dysgu galwedigaethol a rhaglenni sy'n seiliedig ar sgiliau, gan gynnwys amaethyddiaeth, garddwriaeth, gastronomeg ac adeiladu.
Bydd cyrsiau'n cyd-fynd â'r cyfleoedd cyflogaeth unigryw a gynigir yng Ngheredigion, ac yn arbennig amaethyddiaeth, garddwriaeth, sgiliau crefftus ac adeiladu modern, gastronomeg a thwristiaeth.
Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Prosiect brwdfrydig a medrus sy’n gallu cymell pobl yn dda ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth, ac sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni gweledigaeth a fydd yn trawsnewid darpariaeth alwedigaethol ôl-16 yn y sir, gan ddarparu'r sgiliau i ddysgwyr ddiwallu anghenion yr economi wledig a chyflogwyr, ac yn cael effaith gadarnhaol ar adfywio rhanbarthol.
Bydd gan y Rheolwr Prosiect sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, ac ef fydd y ddolen ganolog sy’n cydlynu rhwng rhanddeiliaid, timau mewnol a phartneriaid allanol i sicrhau bod popeth yn cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol a sectoraidd, a gofynion cyllido cysylltiedig. Yn feddyliwr dadansoddol deinamig gyda sgiliau sefydliadol rhagorol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio egwyddorion rheoli prosiect ac yn gyfrifol am reoli cylch bywyd a ffrydiau gwaith y prosiect gyda ffocws ar ansawdd, amserlenni a chanlyniadau mesuradwy ynghyd â nodi a gweithredu strategaethau lliniaru y cytunwyd arnynt. Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr cyfathrebu, bydd deiliad y rôl yn cyfarwyddo ac yn cydlynu digwyddiadau sy'n gysylltiedig â phrosiectau a disgwylir iddo weithio'n hyblyg ledled Gorllewin Cymru.
Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 12 Awst 2025
Dyddiad y cyfweliad: I'w gadarnhau