Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Rhaglen proffesiynol a llawn cymhelliant ar gontract amser llawn, dros gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2027.
Bydd rôl y Swyddog Rhaglen yn cynorthwyo i ymestyn ein Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr, gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Rhaglen. Byddant yn helpu i gyflawni un o blith pedair blaenoriaeth yn ein strategaeth bum mlynedd, sef “creu amgylchedd sy’n cefnogi arbenigwyr y presennol a dyfodol Cymru”.
Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu mewn modd ystyrlon at ddyfodol ymchwil yng Nghymru trwy hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio ymhlith ymchwilwyr sydd ar ddechrau ac ar ganol eu gyrfaoedd.
Bydd y rôl yn adeiladu ar ein partneriaeth gyda Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Byddai’n gweddu i rywun sy’n meddu ar y cymhelliant i siapio a chyfathrebu effaith un o’n prif raglenni, a rhywun sy’n mwynhau gweithio’n hyblyg gyda thîm cefnogol a dynamig.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg yn arbennig. Nid yw rhuglder yn y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon, ond mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, ac mae parodrwydd i ddysgu yn hanfodol. Mae’r Gymdeithas yn sefydliad dwyieithog a chaiff siaradwyr Cymraeg y cyfle i wneud cyfran sylweddol o’u gwaith yn y Gymraeg, gyda chydweithwyr a Chymrodyr. Mae’r Gymdeithas yn rhoi cymorth i staff ar bob lefel o ran dysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ydy hanner nos, 12 Ebrill 2026.
Mae cyfweliadau wedi’u trefnu i gael eu cynnal rhwng 9am a 5pm ar dydd Mawrth 21 Ebrill 2026.
Os hoffech ragor o wybodaeth cyn penderfynu gwneud cais, cysylltwch â Dr Barbara Ibinarriaga Soltero (applications@lsw.wales.ac.uk) i drefnu trafodaeth anffurfiol gyda’r Rheolwr Rhaglen.