A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Golygydd Gwybodaeth Rhaglennu (Metadata) / Swyddle
Swydd:
Golygydd Gwybodaeth Rhaglennu (Metadata)
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£35,000.00-£39,000.00
Cyfeirnod:
202508S4C
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
02-09-2025

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dibynadwy, disgybledig, a threfnus gyda sgiliau ysgrifennu a dadansoddi gwych sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’r tîm Cynllunio a Rheoli Cynnwys ar gyfnod dros dro tan Ragfyr 31ain er mwyn cwblhau’r gwaith pwysig hwn. Rydym yn hapus ystyried gwaith hyblyg, rhan amser neu oriau penodol oddi wrth ymgeiswyr.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol newydd ddarlledu sydd yn cynnwys ffrydio a gwasanaethau aml blatfform.

Eich prif gyfrifoldeb fydd paratoi a gwella'r metadata golygyddol sy’n gysylltiedig â’n rhaglenni, gan sicrhau ei fod yn gywir, yn ddeniadol ac wedi’i optimeiddio ar gyfer mynediad a chynnwys cyflym.

Mae metadata yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth, megis: Technegol: hyd y rhaglen, sgorau/cyfraddau, Golygyddol: teitlau, crynodebau, genre, cast/creu, geiriau allweddol, Delweddau: delweddau cyfresi ac episodig.  Mae’r wybodaeth yma yn helpu i arwyddo cyfresi a phenodau ar lwyfannau partner fel BBC iPlayer, Samsung ac LG.  Mi fydd  hyfforddiant ar agweddau metadata yn gysylltiedig gyda’r rôl yn cael ei drefnu fel rhan o anwythiad.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa a chyfnod swyddfa parhaus am y bythefnos gyntaf er mwyn hyfforddi- mae'n debygol y bydd yr hyfforddiant yma yn digwydd yn ein swyddfa(feydd) yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd).

Cyflog: £35,000.00- £39,000.00 y flwyddyn

Cytundeb: Dros dro tan 31 Rhagfyr 2025

Oriau gwaith: Hyd at 35.75 yr wythnos - rydym yn hapus i drafod oriau gwaith ac i ystyried ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr sy’n edrych am waith hyblyg neu ran amser.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Mawrth 2 Medi 2025 trwy lenwi’r ffurflen gais yma

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cyfweliadau: Dyddiad a lleoliad i’w gadarnhau; cyfweliadau i’w cymryd lle ar ddiwrnod wythnos yr 8 Medi 2025.  

 

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth