Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ydych chi'n chwilio am swydd mewn sefydliad lle mae'r gwaith a wnewch chi'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant? Os yw'r ateb yn ‘ie’, mae'r rôl Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus (Cymru) gallai fod yn union beth rydych chi'n chwilio amdano.
Llunio'r Dyfodol – Ymunwch â'r Cyfarwyddiaeth Strategaeth a Gwybodaeth
Mae pob plentyndod yn werth brwydro drosto. Rydym ni’n credu hynny’n gryf. Hyn sy’n ein ysgogi ni. Ac sy’n ysgogi ein Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus gwobrwyedig i barhau i gynnal dylanwad yr NSPCC fel llais gwybodus a grymus ar bob lefel. Ymunwch â ni fel Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus a chewch fod yn rhan o’r cynnydd sy’n golygu mwy.
Mae deiliad y swydd yn cefnogi gwaith y tîm Polisi a Materion Cyhoeddus yn Nhymru o ran sicrhau newid a diwygio gwirioneddol er lles pennaf plant. Bydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddadansoddi polisi, ymchwilio i bolisi a gweithgarwch materion cyhoeddus gydag amrywiaeth o randdeiliaid allanol, gan gynnwys aelodau etholedig perthnasol a swyddogion y llywodraeth.
Rydym ni’n chwilio am rywun sydd ag ymrwymiad clir i weledigaeth yr NSPCC i weithio gyda’n gilydd i roi terfyn ar gam-drin ac esgeuluso plant. Bydd angen dealltwriaeth dda o bolisi cyhoeddus sy’n ymwneud â gwaith yr NSPCC a sgiliau materion cyhoeddus amlwg, gyda gwybodaeth dda am lunio polisïau a phrosesau seneddol yng Nghymru.
Ymunwch â ni a chewch fod yn aelod o dîm sy’n teimlo’n gryf am y gwaith maen nhw’n ei wneud a’r bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw. Byddwch yn canfod cyfleoedd i dyfu, ynghyd â heriau a diben cyffredin a fydd yn eich dangos chi ar eich gorau. Byddwch yn gallu darganfod eich ffordd eich hun o wneud gwahaniaeth sy’n golygu mwy, ac sy’n effeithio ar filiynau o fywydau ifanc.