A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Pobl a Lleoedd / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Pobl a Lleoedd
Lleoliad:
Cymru, Gweithio o Gartref
Cyflog:
45,047.05
Cyfeirnod:
202605M2
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Mentera
Dyddiad Cau:
10-05-2026

Eich rôl

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa Adnoddau Dynol a chwarae rôl allweddol a dylanwadol o fewn cwmni arloesol? Fel Rheolwr Pobl a Lleoedd byddwch chi’n arwain ein tîm ar weithredoedd strategol a gweithredol i wneud gyda’n pobl a’n gweithleoedd ar draws y busnes. Byddwch yn cefnogi ein pobl talentog i berfformio ar eu gorau, ein cynorthwyo i rhagweld a rheoli risg, a gweithio ar brosiectau’r adran fydd yn cael effaith ledled y cwmni.

 

Eich tîm a’ch cyfoedion

Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm sydd wedi ei ffocysu ar gyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau Adnoddau Dynol. Byddwch yn rhan o Dîm Rheoli’r cwmni ac felly’n gweithio gyda’n rheolwyr prosiect a nifer o reolwyr ac arweinwyr eraill sydd yn gyfrifol am redeg busnes cynhwysol, diogel, sydd wedi ei reoli’n effeithiol.

 

Eich effaith

Mae'r swydd hon yn ddolen hanfodol rhwng ein strategaeth ac yr elfennau o’n gweithrediadau o ddydd i ddydd sy'n ymwneud â'n pobl a'n lleoedd. Felly byddwch wedi eich grymuso i:

  • Reoli gweithrediadau a phobl yr adran er mwyn darparu gwasanaeth proffesiynol ac effeithiol i holl staff y cwmni.
  • Arwain ar ein systemau a'n gweithdrefnau busnes gyda'r nod o ddarparu profiad rhagorol ac integredig i'n pobl tra byddant yn y gwaith.
  • Gydlynu ein gweithredoedd yn ymwneud â’n llefydd, ein cyfleusterau, a chydymffurfiaeth iechyd a diogelwch.
  • Gynnal y safonau moesegol uchaf yn eich gwaith, gan gynnwys cyfrinachedd llym.

 

Buddion a chefnogaeth

  • Cyflog cystadleuol a chyfraniad pensiwn hael gan y cyflogwr
  • Cyfraniad o 50% tuag at unrhyw weithgareddau ffitrwydd megis aelodaeth campfa misol, dosbarthiadau ffitrwydd, neu glybiau chwaraeon
  • 25 diwrnod o wyliau (ac 8 gŵyl banc), yn cynyddu i 27 diwrnod (+8) wrth i’ch hyd gwasanaeath gynyddu
  • Tridiau ychwanegol o wyliau dros y Nadolig
  • Yr hawl i gario pump diwrnod o wyliau i’r flwyddyn ganlynol
  • Parcio am ddim ymhob swyddfa
  • Polisiau hyblygrwydd (‘TOIL’) hael gyda’r gallu i gael amser nôl fel gwyliau os yn gweithio oriau hirach
  • Polisiau teuluol hael megis mamolaeth a mabwysiadu
  • Digwyddiadau cymdeithasol corfforaethol rheolaidd yn cynnwys ein ‘Cyrdde Mawr’ yn yr Hâf ac adeg y Dolig
  • Hyfforddiant a datblygiad yn y swydd
  • Cyrsiau dysgu/gloywi Cymraeg yn rhad ac am ddim, beth bynnag yw lefel eich gallu ar y funud

 

Ffeithiau hanfodol

  • Cyfweliadau: Debygol o fod w/c 18/5
  • Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Mentera
  • Math o gontract: Pen-agored
  • Oriau: 37.5 awr yr wythnos, Llun i Gwener

 

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Dafydd Bowen, Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd:
dafydd.bowen@mentera.cymru